Adolygiad Math C

Mae adolygiadau math C yn eich galluogi i fynd yn syth i wrandawiad os bydd eich safbwynt chi a safbwynt yr etholwr neu unrhyw berson arall yn glir, a bod gwrandawiad i benderfynu ar y mater yn fwy ymarferol nag adolygiad math A neu fath B drwy ohebiaeth. 

Gellir cwblhau adolygiadau math C mewn llai o amser na mathau A a B ac felly gallant fod yn arbennig o briodol yn agos at ddyddiad cau ar gyfer gwneud penderfyniad, er enghraifft, cyn etholiad.

Mae'n rhaid i'r hysbysiad i'r etholwr nodi pob un o'r canlynol:1  

  • eich bwriad i gynnal gwrandawiad
  • y rhesymau dros yr adolygiad
  • amser a lleoliad y gwrandawiad 

Ar ôl y gwrandawiad, rhaid i chi hysbysu'r etholwr o ganlyniad yr adolygiad a nodi a oes ganddo hawl i apelio, yn cynnwys:2  

  • y terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl
  • unrhyw wybodaeth arall am yr apêl sy'n briodol, yn eich barn chi

Rydym wedi cyhoeddi adnodd sy'n crynhoi'r broses adolygu. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021