Tystiolaeth ddogfennol i gefnogi newid enw

Dylai tystiolaeth ddogfennol a ddarperir gan etholwr ddangos cysylltiad clir rhwng yr enw y mae ymgeisydd wedi'i ddefnyddio i gofrestru ar hyn y bryd a'r enw y mae'n dymuno newid y cofnod iddo.

Gall dogfennau derbyniol gynnwys:

  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil o dramor
  • gweithred newid enw gofrestredig
  • gweithred newid enw anghofrestredig
  • datganiad statudol neu affidafid
  • tystysgrif bedydd neu wasanaeth derbyn (ar gyfer enwau cyntaf yn unig)
  • tystysgrif geni
  • tystysgrif dinasyddio neu gofrestru
  • gorchymyn/tystysgrif mabwysiadu

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a chi sydd i benderfynu a yw dogfen yn cynnwys prawf boddhaol o'r newid i enw'r etholwr.

Ymysg y dogfennau eraill y gellir eu hystyried mae:

  • tystysgrif geni ddiwygiedig, a all ddigwydd os bydd enw cyntaf y deiliad wedi cael ei newid o fewn deuddeg mis iddo gael ei eni, neu o dan amgylchiadau eraill
  • tystysgrif dinasyddio ddiwygiedig, a all ddigwydd os bydd y deiliad yn newid ei enw ar ôl hynny 
  • cofrestriad neu orchymyn/tystysgrif mabwysiadu os bydd y ddogfen wedi'i diwygio ac yn cynnwys yr hen enw a'r enw diwygiedig mwy newydd

Dylech ofyn am gopïau o'r dystiolaeth naill ai drwy'r post neu drwy ddull electronig. Gall yr ymgeisydd ddod i'ch swyddfeydd yn bersonol gyda chopïau neu ddogfennau gwreiddiol os na fydd yn dymuno anfon copïau. Rhaid i unrhyw gopïau o ddogfennau y bydd ymgeiswyr yn eu darparu, neu y byddwch chi'n eu gwneud o ddogfennau gwreiddiol, gael eu storio'n ddiogel yn yr un ffordd â ffurflenni cais.

Rhaid i chi fod yn fodlon bod y dogfennau neu'r copïau a ddarperir yn ymddangos yn ddilys. Os bydd gennych unrhyw amheuon, neu os bydd ansawdd copi mor wael fel na allwch asesu'r ddogfen, gallwch ofyn i'r ymgeisydd gyflwyno'r ddogfen wreiddiol neu'r dogfennau gwreiddiol i chi yn bersonol neu anfon y dogfennau gwreiddiol er mwyn i chi eu copïo a'u dychwelyd. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol mai chi fyddai'n gyfrifol am sicrhau y caiff y ddogfen ei chludo'n ddiogel. 

Lle mae rhywun wedi newid ei enw fwy nag unwaith, dylai ddarparu tystiolaeth ddogfennol ddigonol i ddangos cysylltiad clir rhwng ei enw fel y'i dangosir ar y gofrestr ar hyn o bryd a'r enw y mae'n dymuno newid y cofnod iddo.

Mae'r canlynol yn enghreifftiau o benderfyniadau y gallai Swyddog Cofrestru Etholiadol eu gwneud wrth benderfynu ar gais i newid enw:

  • Hoffai etholwr sydd wedi'i gofrestru fel John Smith newid ei enw ar y gofrestr i John Smith-Brown. Mae'n darparu copi o dystysgrif priodas sy'n cofnodi priodas John Smith ac Alice Brown. Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ystyried bod hyn yn dystiolaeth ddigonol, oherwydd y gellir gwneud y cysylltiad yn glir rhwng John Smith a John Smith-Brown o gyfenw ei wraig.
  • Hoffai etholwr sydd wedi'i chofrestru fel Lucy Jones newid ei henw ar y gofrestr i Lucy Lewis. Mae'n darparu tystysgrif priodas sy'n cofnodi priodas Lucy Jones a Mike Green, a gweithred newid enw sy'n profi bod Lucy Green wedi newid ei henw i Lucy Lewis. Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ystyried bod hyn yn dystiolaeth ddigonol, ac er nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng Lucy Jones a Lucy Lewis, mae'r cysylltiad rhwng pob un o'r rhain a Lucy Green wedi'i wneud.
  • Hoffai etholwr sydd wedi'i chofrestru fel Jane Grey newid ei henw ar y gofrestr i Jane Walsh. Mae'n darparu tystysgrif priodas sy'n cofnodi priodas Jane Walsh a Thomas Grey. Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ystyried bod hyn yn dystiolaeth ddigonol, oherwydd y gellir gwneud y cysylltiad yn glir rhwng Jane Grey a Jane Walsh o'i henw cyn priodi. 
  • Hoffai etholwr sydd wedi'i gofrestru fel James Osborne newid ei enw ar y gofrestr i James Smith. Mae'n darparu pasbort yn enw James Smith. Nid yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ystyried bod hyn yn dystiolaeth ddigonol, am nad yw'n dangos y cysylltiad rhwng y ddau enw.
  • Hoffai etholwr sydd wedi'i gofrestru fel Michael Giggs newid ei enw ar y gofrestr i Arthur Lucas. Mae'n darparu gweithred newid enw sy'n cadarnhau bod ei enw wedi newid o Michael Giggs i Arthur Lucas. Mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn ystyried bod hyn yn dystiolaeth ddigonol, oherwydd bod y cysylltiad rhwng y ddau enw wedi'i wneud.
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021