Gwrandawiadau adolygu

Yn wahanol i'r gwrandawiad ar gais neu wrthwynebiad, na ddylid ei gynnal cyn y trydydd diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad o wrandawiad nac ar ôl y seithfed diwrnod gwaith ar ôl hynny, nid oes unrhyw derfyn amser ar gynnal gwrandawiad adolygu. Yr unig ofyniad yw bod angen i o leiaf dri diwrnod gwaith fynd heibio o'r adeg y cyhoeddir yr hysbysiad o wrandawiad cyn y gellir ei gynnal.1  

Gall unrhyw un sydd â hawl i fod yn bresennol fynd i'r gwrandawiad yn bersonol, neu wneud cynrychiolaeth ysgrifenedig neu gael rhywun arall i fod yn bresennol ar ei ran.2
 
Gallwch ei gwneud yn ofynnol bod unigolion sy'n rhoi tystiolaeth yn tyngu llw, naill ai am fod person sydd â hawl i fod yn bresennol yn gofyn am hynny, neu am fod gwneud hynny'n ddymunol yn eich barn chi.3 Er y gallwch weinyddu'r llw eich hun, dylech ofyn am gyngor eich tîm cyfreithiol i sicrhau bod y llw ar y ffurf gywir a bod yr opsiynau crefyddol ac anghrefyddol priodol ar gael.

Os bydd y person yn dweud wrthych na all fod yn bresennol ar y dyddiad a nodwyd, dylech geisio aildrefnu'r gwrandawiad os oes modd o fewn y cyfnod a ganiateir. 

Os bydd y sawl sy'n destun gwrandawiad yn methu ymddangos, gallwch benderfynu o hyd nad oedd gan yr unigolyn hwnnw hawl i fod wedi'i gofrestru neu nad oes ganddo hawl i fod wedi'i gofrestru mwyach. Wrth benderfynu, rhaid i chi ystyried unrhyw gynrychioliadau ysgrifenedig gan y sawl sy'n destun yr adolygiad a phartïon eraill â diddordeb.4  

Pan fyddwch wedi gwneud penderfyniad, rhaid i chi hysbysu'r etholwr o ganlyniad yr adolygiad a nodi a oes ganddo hawl i apelio, yn cynnwys:5  

  • y terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl 
  • unrhyw wybodaeth arall am yr apêl sy'n briodol, yn eich barn chi

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021