Darparu'r gofrestr lawn am ddim

Darparu'r gofrestr lawn am ddim

Darparu copi am ddim heb gais

Rhaid i chi anfon copi o'r gofrestr lawn ddiwygiedig a gyhoeddir, ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig, at unigolion a sefydliadau penodol sydd â hawl i gael copi o'r gofrestr pan gaiff ei chyhoeddi.1  

Mae hyn hefyd yn gymwys pan fyddwch yn cyhoeddi cofrestr ddiwygiedig unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.

Darparu copi am ddim ar gais

Mae deddfwriaeth yn caniatáu i unigolion neu sefydliadau penodol, sy'n cynnwys cynghorydd, plaid neu ymgeisydd, wneud cais am i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ddarparu copi am ddim iddynt o rannau perthnasol o'r gofrestr lawn, unrhyw hysbysiad sy'n nodi newid i'r gofrestr a rhestr o etholwyr tramor.2  

Rhaid i unrhyw gais gael ei wneud yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'r canlynol:3  

  • y ddogfen y gofynnir amdani
  • a yw'r cais yn gofyn am y dogfennau cyfredol yn unig neu a yw'n cynnwys cais am unrhyw ddogfennau dilynol, megis hysbysiadau o newid (fodd bynnag, nid yw'r opsiwn i gael dogfennau dilynol yn gymwys i'r rhai sy'n gwneud cais am y dogfennau at ddibenion etholiadol, felly ni fydd angen iddynt gynnwys hyn);4  
  • a yw'r cais yn gofyn am gopi argraffedig o unrhyw un o'r dogfennau yn lle'r fersiwn ar ffurf data 

Os yw'r cais yn ddilys, rhaid i'r rhan berthnasol o'r gofrestr lawn gael ei darparu.5   

Nid oes unrhyw derfyn ar nifer y ceisiadau y gellir eu gwneud. Mae hyn yn golygu y gellir arfer yr hawl i ofyn am gopi o'r gofrestr fwy nag unwaith, gyda phob cais yn gais dilys y mae'n rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gydymffurfio ag ef. Er enghraifft, gall cynghorydd, plaid neu ymgeisydd sydd eisoes wedi cael copi o'r gofrestr, wneud cais arall am i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ddarparu copi arall o'r gofrestr ddiwygiedig ac unrhyw hysbysiadau dilynol o newid. 

Gallu trydydd partïon i gael gafael ar y gofrestr lawn

Nid yw'r gyfraith yn nodi unrhyw wahaniaeth rhwng pleidiau gwleidyddol a thrydydd partïon mewn perthynas â chael gafael ar gopi o'r gofrestr lawn nac at ba ddiben y gellir defnyddio'r wybodaeth. Mae gan drydydd parti, a gofrestrwyd gan y Comisiwn, yr hawl i wneud cais am gopi o'r canlynol: 

  • y gofrestr lawn
  • unrhyw hysbysiad sy'n nodi newid i'r gofrestr
  • rhestr o etholwyr tramor
  • y rhestr gyfredol o bleidleiswyr absennol
  • y rhestr derfynol o bleidleiswyr absennol ar gyfer etholiad penodol

Dim ond at y dibenion a nodir y gellir defnyddio'r wybodaeth hon.6  

Os gwneir cais dilys am unrhyw wybodaeth o'r fath, rhaid iddi gael ei darparu oni fydd gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol reswm dros gredu nad yw'r unigolyn sy'n gwneud cais am y wybodaeth yn gwneud hynny ar ran y trydydd parti cofrestredig. Gallwch weld rhestr lawn o'r trydydd partïon sydd wedi'u cofrestru â ni ar ein gwefan CPE Ar-lein.

Rhaid i drydydd parti wneud cais am gopi o'r gofrestr lawn yn ysgrifenedig i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Rhaid i'r cais nodi a yw'n gofyn am y fersiwn gyfredol o'r gofrestr lawn neu a yw'n cynnwys cais am unrhyw hysbysiadau dilynol o newid. Os gofynnir am gopi argraffedig, rhaid i'r sawl sy'n gwneud y cais nodi hyn hefyd.7   

Os na fydd yn glir o'r cais ysgrifenedig a yw'n gofyn am y fersiwn gyfredol o'r gofrestr neu a yw'n cynnwys unrhyw ddiweddariadau, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gysylltu â'r sawl sy'n gwneud y cais i ofyn am eglurhad. Yn yr un modd, os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch a yw'r cais wedi'i wneud gan y trydydd parti cofrestredig mewn gwirionedd (er enghraifft os na fydd enw'r trydydd parti a nodir yn y cais yn cyfateb yn union i'r enw sy'n ymddangos ar CPE Ar-lein), ni ddylech ddarparu copi o'r gofrestr tan y byddwch wedi gofyn i'r sawl sydd wedi gwneud y cais am eglurhad ac y byddwch yn fodlon ei fod yn gofyn am gopi o'r gofrestr ar ran y trydydd parti.  

Mae cyfyngiadau cyfreithiol llym ar ddefnyddio'r gofrestr, a dim ond at ddibenion etholiadol a rheoli rhoddion y gall trydydd partïon cofrestredig ei defnyddio.8 Fel sy'n wir am unrhyw un sy'n gofyn am gopi o'r gofrestr, dylech nodi'r cyfyngiadau ar ddefnyddio'r wybodaeth ynddi, yn ogystal â'r cosbau posibl am ei chamddefnyddio. Gallai unrhyw un y canfyddir ei fod wedi torri'r cyfyngiadau ar ddefnyddio'r gofrestr etholiadol wynebu dirwy anghyfyngedig.9  

Rydym wedi llunio blaenlen ar gyfer darparu'r gofrestr etholiadol ar gais, sy'n nodi sut y gellir defnyddio'r gofrestr, y gost am ei chamddefnyddio, ac y dylai'r data gael eu dinistrio'n ddiogel pan fydd y diben y darparwyd y data ar ei gyfer wedi dod i ben.  


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021