| Argraffu'r canllawiau llawn

Ceisiadau ar gyfer pleidlais absennol a gafwyd cyn y diwrnod perthnasol

Mae angen i chi gynllunio ar gyfer sut y byddwch yn rheoli ceisiadau pleidleisio absennol a gafwyd cyn y diwrnod perthnasol.  

Math o gaisCafwyd cyn 3 Tachwedd
Etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Prosesu’r cais yn ôl yr arfer, cyn neu ar ôl y diwrnod perthnasol.  
Etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leolProsesu’r cais yn ôl yr arfer ond gellir penderfynu arno hyd at y diwrnod perthnasol yn unig. 
Am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn i’w wneud os yw cais newydd yn cynnwys anghysondebau, edrychwch ar ein canllawiau ar anghysondebau sydd angen proses ysgrifennu cyn cydgyfeirio. 

Ceisiadau pleidleisio absennol etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol nas penderfynwyd arnynt erbyn y diwrnod perthnasol 

Mae cais ar gyfer pleidlais absennol yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a wnaed cyn y diwrnod perthnasol ond nas penderfynwyd arno cyn y diwrnod perthnasol yn cael ei drin fel un na gafodd ei wneud. Mae hyn oherwydd na fydd y ceisiadau hyn yn cynnwys y wybodaeth ofynnol i alluogi cynnal proses ddilysu ID yn ôl yr angen dan y rheolau newydd.

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y diwrnod perthnasol, mae’n rhaid i chi anfon gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais newydd i unrhyw etholwyr yr effeithir arnynt, i’w cyfeiriad cymhwyso.1

Ceisiadau newydd a gafwyd ar neu ar ôl y diwrnod perthnasol 

Mae’n rhaid i’r holl geisiadau pleidleisio absennol a gafwyd ar neu ar ôl y diwrnod perthnasol fodloni’r gofynion newydd sy’n cynnwys gwybodaeth ar gyfer dilysu dynodyddion personol.2

Lle nad yw cais yn cynnwys y wybodaeth ofynnol, dylech, pan fo modd, ymholi i gaffael y wybodaeth sydd ar goll. Os na chaiff y wybodaeth goll ei chyflwyno, ni ellir derbyn y cais. Dylech ysgrifennu at yr etholwr i egluro pam nad yw’r cais wedi cael ei dderbyn ac egluro sut i wneud cais newydd sy’n bodloni’r gofynion newydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2026