Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Dileadau wedi'u cefnogi gan wybodaeth gan o leiaf ddwy ffynhonnell nad yw etholwr yn breswylydd neu nad yw'n gymwys mwyach
Gallwch benderfynu bod hawl person i fod wedi'i gofrestru wedi dod i ben heb gynnal adolygiad os cewch wybodaeth sy'n cefnogi hyn o ddwy ffynhonnell o leiaf.1
Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwch yn derbyn dwy ffynhonnell o wybodaeth sy'n gyson, dylech fod yn fodlon o hyd nad oes gan berson hawl i fod wedi'i gofrestru cyn i chi wneud penderfyniad.
Os oes gennych amheuaeth ynghylch a yw hawliad person i barhau i fod wedi'i gofrestru wedi dod i ben, bydd gennych yr opsiwn o gael rhagor o wybodaeth, neu gynnal adolygiad, cyn gwneud eich penderfyniad.
Dylai'r ffynonellau o wybodaeth a ddefnyddiwch fod yn gadarn a dylech gynnal trywydd archwilio clir o'r camau a gymerwyd fel rhan o'r broses ddileu.
Gallai ffynonellau derbyniol gynnwys:
- ymateb i ohebiaeth ganfasio
- gwybodaeth gan breswylydd arall yn y cyfeiriad sy'n eich hysbysu nad yw'r etholwr yn byw yno mwyach
- gwybodaeth gan rywun arall sy'n gysylltiedig â'r cyfeiriad, fel landlord, sy'n eich hysbysu nad yw'r etholwr yn byw yno mwyach
- gwahoddiad i gofrestru yn cael ei ddychwelyd gan nodi nad oedd modd ei ddosbarthu/ei fod wedi'i ddychwelyd i'r anfonwr/nad yw'r person yn byw yn y cyfeiriad mwyach
Byddai gwybodaeth o'r fath yn cyfrif fel un ffynhonnell o wybodaeth. Os caiff hyn ei gefnogi gan ddata lleol, e.e. mae enw'r unigolyn wedi cael ei ddileu o'r cofnod treth gyngor yn y cyfeiriad hwnnw, yna byddai hynny'n cyfateb i wybodaeth o ail ffynhonnell a allai gefnogi penderfyniad nad yw'r etholwr yn byw yno mwyach.
Os byddwch wedi cael gwybodaeth gan ffynhonnell heblaw am yr etholwr ei hun, gallwch geisio cysylltu â'r etholwr yn uniongyrchol yn cynnwys dros y ffôn drwy e-bost neu drwy'r post i wneud ymholiadau.
Gallai diffyg ymateb i ymgais i gysylltu â'r etholwr, fel llythyr a gaiff ei ddychwelyd gan nodi nad oedd modd ei ddosbarthu neu nad yw'r etholwr yn byw yno mwyach fod yn ffynhonnell o wybodaeth o'r fath.
Rhaid i'r wybodaeth sy'n sail i benderfyniad i ddileu cofnod heb adolygiad fod o ffynonellau gwahanol. Er enghraifft mae, dwy eitem o ohebiaeth drwy'r post a ddychwelwyd gan nodi nad oedd modd ei dosbarthu yn annhebygol o fod yn wybodaeth o ddwy ffynhonnell. Yn yr achos hwn, byddai angen cael gwybodaeth o ffynhonnell wahanol hefyd cyn y gellid gwneud penderfyniad.
Gallai gwybodaeth sy'n deillio o'r canfasiad gynnwys enw wedi'i groesi allan/wedi'i nodi nad yw'n byw yno mwyach mewn ymateb i ohebiaeth ganfasio lle na nodir bod yr etholwr wedi marw, neu ohebiaeth ganfasio a anfonwyd drwy'r post a gaiff ei dychwelyd gan nodi nad oedd modd ei dosbarthu/ei bod wedi'i dychwelyd i'r anfonwr/nad yw'r person yn byw yno mwyach. Yn yr achosion hyn, byddech wedi cael tystiolaeth o un ffynhonnell a byddai angen cael gwybodaeth o ail ffynhonnell cyn y gellid gwneud penderfyniad i ddileu cofnod yr etholwr.
Dylech gymryd camau i gadarnhau a oes gwybodaeth o ffynonellau eraill a allai gefnogi penderfyniad i ddileu. Gallai hyn gynnwys edrych ar ddata lleol fel cofnodion y dreth gyngor, neu geisio cysylltu â'r etholwr.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cofnodion y gallwch eu harchwilio yn ein canllawiau ar gynllunio i gofrestru.
- 1. Rheoliad 31C(2)(b)(i), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1