Pan fydd y wybodaeth wedi'i darparu gan berthynas agos rhaid iddi gynnwys:
enw llawn a chyfeiriad yr etholwr sydd wedi marw
enw llawn a chyfeiriad y person sy'n darparu'r wybodaeth
ei berthynas â'r sawl a fu farw
datganiad bod y person sy'n darparu'r wybodaeth yn ymwybodol o'r gosb am ddarparu gwybodaeth anwir3
Pan fydd y wybodaeth wedi'i darparu gan reolwr cartref gofal cofrestredig, rhaid iddi gynnwys:
enw llawn a chyfeiriad yr etholwr sydd wedi marw;
enw llawn a chyfeiriad y person sy'n darparu'r wybodaeth
datganiad bod y person sy'n darparu'r wybodaeth yn ymwybodol o'r gosb am ddarparu gwybodaeth anwir4
Gall perthynas agos neu reolwr cartref gofal ddarparu gwybodaeth yn ysgrifenedig, yn bersonol neu dros y ffôn. Pan gaiff gwybodaeth ei darparu'n bersonol neu dros y ffôn rhaid i chi gofnodi'r wybodaeth yn ysgrifenedig neu ar ffurf data.
Pan fyddwch yn dileu cofnod etholwr oddi ar y gofrestr am ei fod wedi marw, dylech gynnal trywydd archwilio o'r rhesymau dros eich gweithredoedd. Mewn perthynas â hysbysiadau gan y cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau, dylech gadw mewn cof mai dim ond y cofrestrydd sy'n gyfrifol am yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth y dylid ei hysbysu o'r farwolaeth, ac os bydd etholwr sydd wedi'i gofrestru yn eich ardal yn marw yn rhywle arall, nad yw'n debygol y byddwch yn cael hysbysiad ffurfiol.
Os cewch eich hysbysu bod person wedi marw mewn unrhyw amgylchiadau heblaw am y rhai a restrwyd, bydd angen i chi gael ail ffynhonnell o wybodaeth cyn y gallwch ddileu cofnod yr etholwr. Er enghraifft, gallech gysylltu â'r cofrestrydd i gael hysbysiad ffurfiol o'r farwolaeth, a fyddai'n eich galluogi i ddileu'r cofnod heb gael rhagor o wybodaeth nac adolygiad.