Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Dileadau wedi'u cefnogi gan dystiolaeth bod etholwr wedi marw
Gallwch ddileu cofnod etholwr oddi ar y gofrestr heb adolygiad os byddwch:1
- wedi cael tystysgrif marwolaeth mewn perthynas â'r etholwr
- wedi cael eich hysbysu gan y cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau bod etholwr wedi marw
- wedi cael gwybodaeth:
- o ganlyniad i'r canfasiad (er enghraifft, gohebiaeth ganfasio sy'n cael ei dychwelyd gan nodi bod etholwr wedi marw)
- o gofnodion y cyngor a'ch penododd
- gan berson neu sefydliad sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor a'ch penododd
- gan berthynas agos (gŵr/gwraig, partner sifil, rhiant, tad-cu/mam-gu, brawd, chwaer, plentyn neu ŵyr/wyres i'r etholwr).
- gan reolwr cartref gofal cofrestredig.2
Pan fydd y wybodaeth wedi'i darparu gan berthynas agos rhaid iddi gynnwys:
- enw llawn a chyfeiriad yr etholwr sydd wedi marw
- enw llawn a chyfeiriad y person sy'n darparu'r wybodaeth
- ei berthynas â'r sawl a fu farw
- datganiad bod y person sy'n darparu'r wybodaeth yn ymwybodol o'r gosb am ddarparu gwybodaeth anwir3
Pan fydd y wybodaeth wedi'i darparu gan reolwr cartref gofal cofrestredig, rhaid iddi gynnwys:
- enw llawn a chyfeiriad yr etholwr sydd wedi marw;
- enw llawn a chyfeiriad y person sy'n darparu'r wybodaeth
- datganiad bod y person sy'n darparu'r wybodaeth yn ymwybodol o'r gosb am ddarparu gwybodaeth anwir4
Gall perthynas agos neu reolwr cartref gofal ddarparu gwybodaeth yn ysgrifenedig, yn bersonol neu dros y ffôn. Pan gaiff gwybodaeth ei darparu'n bersonol neu dros y ffôn rhaid i chi gofnodi'r wybodaeth yn ysgrifenedig neu ar ffurf data.
Pan fyddwch yn dileu cofnod etholwr oddi ar y gofrestr am ei fod wedi marw, dylech gynnal trywydd archwilio o'r rhesymau dros eich gweithredoedd. Mewn perthynas â hysbysiadau gan y cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau, dylech gadw mewn cof mai dim ond y cofrestrydd sy'n gyfrifol am yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth y dylid ei hysbysu o'r farwolaeth, ac os bydd etholwr sydd wedi'i gofrestru yn eich ardal yn marw yn rhywle arall, nad yw'n debygol y byddwch yn cael hysbysiad ffurfiol.
Os cewch eich hysbysu bod person wedi marw mewn unrhyw amgylchiadau heblaw am y rhai a restrwyd, bydd angen i chi gael ail ffynhonnell o wybodaeth cyn y gallwch ddileu cofnod yr etholwr. Er enghraifft, gallech gysylltu â'r cofrestrydd i gael hysbysiad ffurfiol o'r farwolaeth, a fyddai'n eich galluogi i ddileu'r cofnod heb gael rhagor o wybodaeth nac adolygiad.
Ceir rhagor o wybodaeth yn eich canllawiau ar y cofnodion y gallwch eu harchwilio.
- 1. Rheoliad 31C(2)(b)(ii) a (iii), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rhan 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yng Nghymru a Lloegr ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 13D, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 13D, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4