Y prosesau eithriadau ac ardystio ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a Dogfennau Etholwyr Dienw

Rhaid i chi ofyn i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ychwanegol os bydd hyn yn angenrheidiol yn eich barn chi er mwyn cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd. Gall hyn fod am y rhesymau canlynol:

  • nid yw'n gallu nodi ei ddynodydd(ion) personol1  
  • ni ellir paru'r dynodyddion personol yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu 
  • ni ellir paru ymgeisydd yn erbyn data lleol, neu rydych yn dewis peidio â defnyddio'r opsiwn hwn  

Gall y dystiolaeth ychwanegol hon fod ar ffurf dogfennau ategol sy'n cadarnhau bod yr ymgeisydd yn dweud y gwir am bwy ydyw, sef y broses eithriadau, neu drwy ddarparu datganiad gan unigolyn arall yn cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd, sef y broses ardystio. 

Nid oes angen i chi ofyn am dystiolaeth ychwanegol os bydd yr ymgeisydd o dan 16 oed a gellir defnyddio cofnodion addysgol sy'n berthnasol i'r ymgeisydd i gadarnhau pwy ydyw.2  

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022