Adnabod ceisiadau amheus am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a Dogfen Etholwr Dienw

Er nad oes unrhyw arwyddion pendant o dwyll, dylech sicrhau bod gennych systemau ar waith i fonitro arwyddion o dwyll posibl. Nid oes angen derbyn ceisiadau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a Dogfennau Etholwyr Dienw ar eu golwg. Gallwch ofyn am wybodaeth ychwanegol pan fo angen, megis ardystiad, er mwyn cadarnhau pwy yw ymgeisydd. 

Dylech dalu sylw arbennig i'r canlynol:

  • sawl cais wedi'i gwblhau â'r un llawysgrifen
  • nifer mawr o geisiadau o un eiddo
  • sawl cais â'r un llun

Ceir rhagor o wybodaeth am nodi ceisiadau amheus yn ein canllawiau cofrestru.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022