Y broses apelio

Gall unigolyn apelio yn erbyn eich penderfyniad i wrthod cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw. Rhaid i'r unigolyn wneud y canlynol:1   

  • rhoi hysbysiad o'r apêl o fewn 14 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad gwrthod
  • nodi'r rhesymau dros apelio 

Rhaid i chi anfon unrhyw hysbysiad o apêl a gewch ymlaen i'r llys perthnasol, yn y ffordd a nodir gan reolau'r llys, ynghyd â datganiad yn nodi'r canlynol:2       

  • y ffeithiau perthnasol a sefydlwyd yn yr achos, yn eich barn chi 
  • eich penderfyniad ynghylch yr achos cyfan
  • eich sylwadau ar unrhyw bwynt a nodir fel sail yr apêl

Mae'n rhaid i chi hefyd roi unrhyw wybodaeth arall i'r llys perthnasol y gall fod ei hangen arno, ac y gallwch ei rhoi.3    

Mae'n rhaid i chi hefyd roi gwybod i'r llys pan fyddwch yn ymwybodol o hysbysiadau o apêl sy'n seiliedig ar resymau tebyg, fel ei fod yn gallu cydgrynhoi'r apeliadau neu ddewis achos prawf (fel y bo'n briodol).4  

Y llys perthnasol yw'r llys sirol lle caiff y Swyddog Cofrestru Etholiadol ei benodi ar gyfer ardal yng Nghymru neu Loegr.5    

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022