Y gofyniad i etholwyr dienw gael Dogfen Etholwr Dienw er mwyn pleidleisio yn bersonol

Os bydd etholwyr dienw yn dymuno pleidleisio'n bersonol mewn etholiadau perthnasol yn yr orsaf bleidleisio neu lofnodi taflen lofnodi mewn man llofnodi ar gyfer deiseb, bydd angen iddynt ddarparu Dogfen Etholwr Dienw fel eu prawf adnabod ffotograffig. Dogfen sy'n cynnwys rhif etholwr a llun etholwr yw hon a gaiff ei chynhyrchu gennych chi, fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, ar ôl dilysu hunaniaeth unigolyn. Ni all etholwyr dienw ddefnyddio mathau eraill o brawf adnabod ffotograffig. Bydd angen i etholwyr dienw ddarparu eu cerdyn pleidleisio o hyd wrth bleidleisio yn bersonol neu lofnodi deiseb.

Hysbysu etholwyr dienw presennol am y gofyniad i feddu ar Ddogfen Etholwr Dienw

Rhaid i chi hysbysu'r holl etholwyr dienw cymwys presennol sydd ar eich cofrestr am y gofyniad newydd i feddu ar Ddogfen Etholwr Dienw os byddant am bleidleisio yn bersonol mewn etholiadau perthnasol yn yr orsaf bleidleisio neu lofnodi taflen lofnodi mewn man llofnodi ar gyfer deiseb.

Mae etholwr dienw cymwys yn golygu unigolyn sydd â chofnod dienw naill ai mewn:

  • cofrestr etholwyr seneddol, 
  • cofrestr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac â hawl i bleidleisio mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn ardal yr heddlu yng Nghymru  

Rhaid i chi anfon yr hysbysiad hwn drwy'r post erbyn diwedd y cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r rheoliad hwn i rym fan bellaf, oni bai fod cofnod yr etholwr cymwys yn cael ei ddileu o'r gofrestr etholwyr, neu fod y swyddog cofrestru eisoes wedi anfon hysbysiad gyda chais i adnewyddu cofrestriad.1  

Hysbysu etholwyr dienw newydd am y gofyniad i feddu ar Ddogfen Etholwr Dienw pan fyddant yn gwneud cais

Pan fydd unigolyn yn cofrestru fel etholwyr dienw naill ai mewn:

  • cofrestr etholwyr seneddol, 
  • cofrestr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac â hawl i bleidleisio mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn ardal yr heddlu yng Nghymru  

am y tro cyntaf, bydd yn rhaid i chi anfon hysbysiad ato drwy'r post cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i roi gwybod iddo y bydd yn rhaid iddo gael Dogfen Etholwr Dienw os bydd am bleidleisio yn bersonol mewn etholiadau perthnasol yn yr orsaf bleidleisio neu lofnodi taflen lofnodi mewn man llofnodi ar gyfer deiseb2 .  

Hysbysu etholwyr dienw am y gofyniad i feddu ar Ddogfen Etholwr Dienw pan fydd yn bryd iddynt adnewyddu eu cofrestriad 

Yn ystod y cyfnod perthnasol, bydd yn ofynnol i chi anfon hysbysiad drwy'r post at bob etholwr dienw cymwys ar eich cofrestr i'w atgoffa o'r gofyniad i feddu ar Ddogfen Etholwr Dienw os bydd am bleidleisio yn bersonol mewn etholiadau perthnasol yn yr orsaf bleidleisio neu lofnodi taflen lofnodi mewn man llofnodi ar gyfer deiseb. 

Mae'r cyfnod perthnasol yn cyfeirio at y cyfnod o fis sy'n dechrau ar y diwrnod sydd 9 mis ar ôl y diwrnod y daeth cofnod dienw'r unigolyn i rym gyntaf ac yn dod i ben ar y diwrnod sydd 10 mis ar ôl y diwrnod y daeth y cofnod i rym gyntaf3 .  

Dylid cyfuno'r hysbysiad hwn â'r nodiadau atgoffa blynyddol a anfonir at etholwyr dienw er mwyn iddynt adnewyddu eu cofrestriad4

Nid oes angen i chi anfon yr hysbysiad hwn at etholwr dienw sydd â phleidlais bost neu sy'n pleidleisio drwy ddirprwy.

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2022