Penderfynu ar gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw
Pan fyddwch yn prosesu cais, mae'n rhaid i chi wneud penderfyniad o ran a oes hawl gan yr ymgeisydd i gael Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw. Penderfynu ar gais yw'r enw ar hyn.
Dylech benderfynu ar gais cyn gynted â phosibl ar ôl iddo ddod i law.
Mae'n rhaid i chi benderfynu cymeradwyo cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw os byddwch yn fodlon ar y pethau canlynol:1
mai'r ymgeisydd yw'r sawl a enwir yn y cais
bod yr ymgeisydd wedi darparu'r holl wybodaeth ofynnol – gan gynnwys ffoto sy'n bodloni'r gofynion
bod yr ymgeisydd yn etholwr cofrestredig yn y gofrestr seneddol neu gofrestr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac â hawl i bleidleisio mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn ardal yr heddlu yng Nghymru, neu eich bod wedi penderfynu ar gais tebyg i gofrestru a bod y cyfnod o bum diwrnod i wrthwynebu wedi mynd heibio