Unwaith y byddwch wedi cymeradwyo cais, rhaid i chi gyflwyno Dogfen Etholwr Dienw i'r ymgeisydd.1
Rhaid cynhyrchu Dogfennau Etholwyr Dienw yn fewnol, yn hytrach na thrwy ddefnyddio cyflenwr allanol. Mae hwn yn fesur diogelwch er mwyn sicrhau bod gwybodaeth bersonol yr ymgeisydd yn cael ei chadw'n ddiogel. Dylech sicrhau bod yr adnoddau gofynnol gennych i gynhyrchu Dogfennau Etholwyr Dienw. Bydd hyn yn cynnwys papur arbenigol sy'n bodloni'r gofynion diogelwch ar gyfer argraffu Dogfennau Etholwyr Dienw.
Caiff y papur arbenigol sydd ei angen i gynhyrchu Dogfennau Etholwyr Dienw ei ddarparu i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy drefniant Llywodraeth y DU ag argraffwyr arbenigol. Bydd angen storio'r papur hwn yn ddiogel yn yr un ffordd ag y byddwch yn storio dogfennau cais etholwyr dienw. Bydd rhifau cyfresol ar y papur a bydd angen i chi gadw cofnodion o ddefnyddio'r papur hwn i gynhyrchu Dogfennau Etholwyr Dienw. Os bydd angen i chi archebu rhagor o bapur, bydd angen i chi gysylltu â'r Is-adran gyfrifol yn Llywodraeth y DU (yr Is-adran Etholiadau yn yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar hyn o bryd).
Rhaid i Ddogfen Etholwr Dienw gynnwys y canlynol2
yn Gymraeg ac yn Saesneg:3
y dyddiad cyflwyno
llun o'r ymgeisydd
rhif etholiadol yr ymgeisydd
y dynodydd priodol
Mae'r dynodydd priodol yn cynnwys 20 o rifau a llythrennau a neilltuir i bob Dogfen Etholwr Dienw.4
Caiff hyn ei gynhyrchu gan EROP.
Caiff rhagor o wybodaeth am sut mae'r broses gynhyrchu yn gweithio ei darparu yn y canllawiau EROP.