Pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr

Gall etholwr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr os, ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw (h.y. 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer pleidlais benodol neu ddiwrnod olaf deiseb) ond cyn 5pm ar y diwrnod pleidleisio neu'r diwrnod olaf ar gyfer llofnodi deiseb, bydd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:1  

  • os bydd etholwr neu ddirprwy wedi colli ei brawf adnabod ffotograffig, Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw, neu os bydd un o'r rhain wedi'i ddwyn, ei ddinistrio neu ei ddifrodi i'r fath raddau fel nad oes modd ei ddefnyddio mwyach ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw fynd heibio
  • os bydd etholwr neu ddirprwy wedi anfon ei fath derbyniol o brawf adnabod ffotograffig, y byddai'n ei ddefnyddio i bleidleisio yn bersonol fel arall, at berson arall er mwyn profi pwy ydyw ac yn credu ei bod yn annhebygol y caiff ei ddychwelyd mewn pryd ar gyfer y diwrnod pleidleisio  
  • os bydd etholwr neu ddirprwy wedi gwneud cais am fath o brawf adnabod a dderbynnir, gan gynnwys Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw, yn ystod y 3 mis cyn y dyddiad cau ac nad yw wedi cyrraedd yn union cyn y dyddiad cau, ac nad yw'r cais wedi'i wrthod na'i dynnu'n ôl
  • os na fydd Dogfen Etholwr Dienw wedi'i chyflwyno i etholwr dienw
  • os bydd etholwr dienw wedi cael Dogfen Etholwr Dienw ac, ar ôl y dyddiad cau, wedi cael rhif etholwr sy'n wahanol i'r un a ddangosir ar ei Ddogfen Etholwr Dienw
  • os bydd gan etholwr neu ddirprwy Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro sy'n ddilys i'w defnyddio ar y diwrnod pleidleisio ond, cyn y gall bleidleisio yn bersonol, caiff gweithrediadau yn ei orsaf bleidleisio eu gohirio (pe bai cythrwfl)

Ceir rhagor o wybodaeth am bleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mawrth 2023