Datgelu gwybodaeth

Ni chaniateir i chi nac unrhyw ddirprwy na pherson arall a benodir i'ch helpu gyflenwi copïau o wybodaeth yn y cofnodion o Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a Dogfennau Etholwyr Dienw a gyflwynwyd, datgelu gwybodaeth o'r cofnodion hyn na'i defnyddio.

Yn ogystal, ni chewch ddefnyddio gwybodaeth a ddarperir mewn cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw, megis rhif Yswiriant Gwladol, i gwblhau cais i gofrestru.1  

Yr unig eithriadau i hyn, lle cewch ddatgelu gwybodaeth, yw:

  • pan fydd gofyn i chi wneud hynny drwy orchymyn gan unrhyw lys neu dribiwnlys2   
  • i swyddog perthnasol at ddibenion etholiad neu ddeiseb berthnasol (yn ôl y digwydd)3
  • ar gais unrhyw heddlu ym Mhrydain Fawr, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, neu Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (Wrth Gefn), unrhyw gorff o gwnstabliaid a sefydlwyd o dan Ddeddf, neu'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.4

Lle gwneir cais gan unrhyw heddlu ym Mhrydain Fawr, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon neu Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (Wrth Gefn), unrhyw gorff o gwnstabliaid a sefydlwyd o dan Ddeddf, neu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol am unrhyw gofnod o ddogfen a gyflwynwyd yn ymwneud â Dogfen Etholwr Dienw, ni ellir darparu hyn oni bai y gwneir y cais yn ysgrifenedig gan swyddog sydd ar reng uwch nag uwch-arolygydd neu, yn achos yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth honno.5

Os rhoddir cofnod ar gais i gwnstabl, swyddog neu gyflogai unrhyw heddlu ym Mhrydain Fawr, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon neu Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (Wrth Gefn), unrhyw gorff o gwnstabliaid a sefydlwyd o dan Ddeddf, neu'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol unrhyw un o’r heddluoedd neu'r sefydliadau, rhaid iddo beidio â rhoi copi o’r cofnod i unrhyw berson, datgelu unrhyw wybodaeth sydd ynddo, na defnyddio unrhyw wybodaeth o’r fath ac eithrio at ddibenion atal a chanfod trosedd a gorfodi'r gyfraith droseddol.6

Rhaid i bob person sydd â mynediad at y cofnodion hyn neu sy'n cael copi o'r wybodaeth o'r cofnodion hyn gymryd camau priodol i sicrhau bod yr wybodaeth yn ddiogel.7

Gall unrhyw un sy'n methu cydymffurfio â'r gofynion hyn gael ei ddyfarnu'n euog o gollfarn ddiannod oni bai y gall ddangos ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio. Mae'r cosbau ar gyfer collfarn o'r fath fel a ganlyn:8

  • yng Nghymru a Lloegr, dirwy
  • yn yr Alban, dirwy nad yw'n uwch na'r uchafswm statudol
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mawrth 2023