Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Cadarnhau pwy yw ymgeisydd am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw
Caiff pob cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a Dogfen Etholwr Dienw ei reoli yn y Porth ERO (EROP).
Bydd modd sicrhau mai dim ond defnyddwyr penodol sy'n gallu prosesu ceisiadau am Ddogfennau Etholwyr Dienw oherwydd natur sensitif y data hyn.
Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn darparu canllawiau ar sut mae defnyddio EROP.
Wrth lawrlwytho neu fewnbynnu data ceisiadau ar EROP, bydd EROP yn cynnal gwiriadau yn awtomatig i sicrhau bod cais yn bodloni'r amodau perthnasol, sef:1
- bod y cais yn gyflawn ac mai'r sawl sy'n gwneud y cais yw'r unigolyn a enwir yn y cais
- bod yr ymgeisydd yn ymddangos ar y gofrestr etholwyr seneddol neu'r gofrestr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac â hawl i bleidleisio mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn ardal yr heddlu yng Nghymru
I fodloni'r amod cyntaf, rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais newydd am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw ddarparu dynodyddion personol a gaiff eu defnyddio i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rhaid ystyried canlyniadau'r gwiriadau hyn, a fydd yn ymddangos yn EROP, wrth benderfynu ar y cais.2
Os na ellir cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau oherwydd ei fod dan 16 oed, gellir paru ei ddynodyddion ag unrhyw gofnod addysgol sy'n berthnasol i'r ymgeisydd hefyd3 .
Os na ellir cadarnhau pwy yw unrhyw ymgeisydd arall gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, gellir paru ei ddynodyddion â ffynonellau data lleol.
Os byddwch yn dal i fethu cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio ffynonellau data lleol, dylech ddilyn y broses eithriadau neu ardystio.
I fodloni’r ail amod, caiff y gofrestr etholiadol berthnasol sydd yn eich system rheoli etholiadol ei gwirio.
Bydd canlyniad y gwiriad hwn yn ymddangos yn EROP er mwyn cadarnhau a yw unigolyn sydd wedi gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw yn etholwr cofrestredig. Bydd y data hyn yn dweud wrthych am unrhyw farc etholfraint sy'n gysylltiedig ag etholwr fel y gallwch bennu a yw wedi'i gynnwys ar gofrestr berthnasol.
Os gwelir bod ymgeisydd yn etholwr cofrestredig, bydd EROP yn dangos bod y wybodaeth yn cyfateb i gofnod ar y gofrestr, a byddwch yn gallu ystyried gweddill y manylion yn y cais.
Os gwelir bod gan ymgeisydd gofnod sy'n aros i gael ei ychwanegu at y gofrestr, gallwch benderfynu ar y cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar ôl i'r cyfnod gwrthwynebu sy'n bum diwrnod fynd heibio.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn dychwelyd i EROP er mwyn prosesu ceisiadau'r rheini sy'n aros i gael eu hychwanegu ar ôl y cyfnod gwrthwynebu.
Os bydd y canlyniadau yn dangos nad yw ymgeisydd wedi'i gynnwys ar gofrestr etholiadol berthnasol neu nad yw wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar gofrestr etholiadol berthnasol, dylech benderfynu a ddylid gwrthod y cais ar y cam hwn, aros ac edrych eto yn ddiweddarach, neu wneud math arall o wiriad â llaw.
Gallai hyn fod i weld a yw'r ymgeisydd wedi gwneud cais i gofrestru ar yr un pryd ag y gwnaeth gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw ac nad yw'r gwiriad data o'r broses gofrestru wedi'i ddychwelyd eto neu efallai y bydd i weld a oes mân wahaniaeth sy'n golygu na ellir dod o hyd i gofnod cyfatebol. Er enghraifft, efallai y bydd enw etholwr wedi'i gamsillafu neu efallai y bydd wedi'i newid yn gyfreithiol ers gwneud y cais i gofrestru. Dylech gysylltu â'r etholwr er mwyn gwneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol fel y gallwch fod yn fodlon mai'r cofnod ar y gofrestr yw'r un person sydd wedi gwneud y cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw.
- 1. Rheoliad 11(2)(a)(i) a (ii), Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 6(11), Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 7(8), Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 3