Cadw cofnodion am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a Dogfennau Etholwyr Dienw a gyflwynwyd

Mae'n rhaid i chi gadw cofnod yn EROP o bob Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a Dogfen Etholwr Dienw a gyflwynwyd.1  

Er mwyn sicrhau bod y cofnod o Ddogfennau Etholwyr Dienw yn aros yn ddiogel, rhaid i chi ei gadw ar wahân i'r cofnod o Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a gyflwynwyd.2  

Rhaid i chi gofnodi yn y cofnod perthnasol o ddogfennau a gyflwynwyd cyn gynted ag y bo modd ar ôl cyflwyno naill ai Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw.3  

Rhaid i bob cofnod o ddogfen a gyflwynwyd ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a Dogfennau Etholwyr Dienw gynnwys y canlynol:4  

  • y dyddiad cyflwyno a dynodydd priodol y ddogfen
  • enw llawn y person y cyflwynyd y ddogfen iddo 
  • y cyfeiriad lle mae'r ymgeisydd wedi'i gofrestru, neu lle bydd wedi'i gofrestru
  • os yw'r ymgeisydd yn bleidleisiwr yn y lluoedd arfog, yn etholwr tramor neu wedi'i gofrestru gan ddefnyddio datganiad o gysylltiad lleol, ei gyfeiriad presennol 
  • unrhyw nodyn a roddwyd fod angen i'r ymgeisydd gasglu ei dystysgrif, a pham   
  • unrhyw nodyn a roddwyd ynghylch a oes angen esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu'r Ddogfen Etholwr Dienw i'w chyflwyno
  • copi o lun y person 
  • unrhyw gyfeiriad e-bost neu rif ffôn a ddarparwyd
  • enw'r awdurdod lleol sydd wedi'ch penodi
  • nodyn ynghylch a gyflwynwyd Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro hefyd ac, os felly, 
    • dynodydd priodol y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro honno
    • ar gyfer pa ddyddiad y mae'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro yn ddilys

Rhaid i chi roi mesurau priodol ar waith ar gyfer cadw'r cofnodion hyn yn ddiogel.5 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddatgelu gwybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2022