Unwaith y byddwch wedi cymeradwyo cais, rhaid i chi gyflwyno Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr i'r ymgeisydd.1
Caiff y data ei anfon o EROP i'r cyflenwr sydd wedi'i gaffael yn ganolog a benodwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a fydd yn sicrhau bod Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr yn cael eu cynhyrchu yn unol â'r fanyleb berthnasol ac yn cynnwys yr holl nodweddion diogelwch.
Rhaid i'r Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr gynnwys y canlynol2
yn Gymraeg ac yn Saesneg;3
enw llawn yr ymgeisydd
llun o'r ymgeisydd
y dyddiad cyflwyno
y dynodydd priodol
y geiriau ‘Cyflwynwyd gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol a benodwyd gan [enw'r Awdurdod Lleol]’
y dyddiad adnewyddu a argymhellir
un nodwedd ddiogelwch neu fwy a argymhellir gan yr Ysgrifennydd Cartref
Mae'r dynodydd priodol yn cynnwys 20 o rifau a llythrennau a neilltuir i bob Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.4
Caiff hyn ei gynhyrchu gan EROP.
Y dyddiad adnewyddu a argymhellir ar gyfer Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yw'r deg mlynedd ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd y dystysgrif.
Caiff rhagor o wybodaeth am sut mae'r broses hon yn gweithio ei darparu yn y canllawiau EROP a ddarperir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn disgwyl y caiff Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr eu hargraffu o fewn cytundeb lefel gwasanaeth o 1-2 ddiwrnod gwaith ar ôl anfon manylion pob ymgeisydd i'r cyflenwr, ac yna eu dosbarthu'n uniongyrchol i'r ymgeisydd drwy ddosbarth cyntaf y Post Brenhinol.
Cewch gyflwyno Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro os byddwch wedi penderfynu ar gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr barhaol ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais (h.y. ar ôl 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad neu'r diwrnod olaf ar gyfer llofnodi deiseb) ond cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad neu'r diwrnod olaf ar gyfer llofnodi deiseb ac nid ydych yn meddwl y bydd y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn cyrraedd mewn pryd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gyflwyno Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro.