| Argraffu'r canllawiau llawn

Adolygu’r broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig

Ar ddiwedd unrhyw broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, dylech adolygu’r prosesau rydych wedi’u cynnal, unrhyw feddalwedd a ddefnyddiwyd i baru neu drin data a’r ffynonellau data rydych wedi’u defnyddio. 

Dylech adolygu’r prosesau cyrchu a chyfnewid data a gynhaliwyd gennych, ac a oes unrhyw bethau y gallech eu newid neu eu gwella yn y dyfodol. 

Dylech gadw trywydd archwilio o wybodaeth ystadegol ddefnyddiol, megis:

  • nifer yr ychwanegiadau 
  • nifer y bobl a nodwyd ond drwy un ffynhonnell ddata yn unig ac yr anfonwyd gwahoddiad i gofrestruatynt
  • ychwanegiadau dan y broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yr anfonwyd gwahoddiad i gofrestru atynt ac a aeth ymlaen i gofrestru’n llawn ar gyfer etholiadau llywodraeth y DU
  • os yw’ch System Rheoli Etholiadol yn darparu’r swyddogaeth, faint o etholwyr a gafodd eu hychwanegu dan y broses cofrestru awtomatig sy’n cael eu dileu’n ddiweddarach yn ystod y broses ganfasio
  • y gwariant a ysgwyddwyd neu a leihawyd o ganlyniad i gofrestru awtomatig, i alluogi goblygiadau posibl ar gyllideb y dyfodol

Dylech hefyd ddal ati i adolygu’r mathau o ymholiadau rydych yn eu derbyn sy’n ymwneud â chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ac a oes angen i chi ddiwygio neu ehangu’r wybodaeth ar eich gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, neu sianeli’r wasg. Dylech geisio adborth gan y rhai sy’n ymwneud â chyflwyno gwybodaeth ar y rheng flaen ynghylch eich hyfforddiant ac unrhyw Gwestiynau Cyffredin a ddarparwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2026