Nid yw amseriad eich ymarfer paru data wedi’i ragnodi a gall newid o flwyddyn i flwyddyn. Dylech gynnwys yr ymarfer yn eich cynllun cofrestru gydol y flwyddyn, gan ystyried:
p’un a oes gennych etholiadau wedi’u trefnu, a pha fath o etholiadau ydyn nhw
gweithgareddau gweinyddol eraill i gysylltu ag etholwyr, megis y canfasiad blynyddol, i osgoi dryswch ymhlith etholwyr
eich demograffeg leol a grwpiau sydd wedi tan-gofrestru, fel myfyrwyr, a phryd y byddant yn dod i fyw yn eich ardal
pa ddata sydd ar gael ac sydd fwyaf perthnasol i chi. Mae pethau i'w hystyried yn cynnwys:
pa mor ddiweddar a pha mor gywir yw’r data - pryd y cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ac a yw’n cael ei gynnal yn rheolaidd. Bydd rhai data yn fwy defnyddiol ar adegau penodol o’r flwyddyn - bydd data addysg fwyaf cywir ar ddechrau’r flwyddyn academaidd
fformat y data ac a fydd angen iddo gael ei brosesu cyn i chi allu ei ddefnyddio
maint y setiau data sydd ar gael, p’un a ydynt yn cynnwys eich ardal gyfan, ac a oes gennych chi ffynonellau eraill ar gael at ddibenion paru
Hyd yr ymarfer paru data
Bydd angen i chi gynllunio ar gyfer hyd eich ymarfer paru data. Gall hyn ddibynnu ar ddemograffeg, cyfradd drosiant a maint eich awdurdod, yr adnoddau sydd ar gael i chi, a faint o brosesu y bydd ei angen ar y data i fod yn barod i’w baru.
Bydd mathau a hyd y prosesu gofynnol yn dibynnu ar y canlynol:
p’un a allwch fewngludo ffynonellau data i feddalwedd er mwyn galluogi paru
pa ddata fydd yn hanfodol er mwyn i’r paru fod yn gywir
faint o waith trin data â llaw fydd ei angen
pa adnoddau sydd ar gael i chi i wneud hyn
Mae tystiolaeth o’r cynlluniau peilot cofrestru yn awtomatig a gynhaliwyd yn 2025/26 yn dangos y dylech ganiatáu o leiaf wyth wythnos ar gyfer y broses hon.
Dylech geisio cyngor gan y swyddog diogelu data yn eich awdurdod lleol ar gyrchu data lleol ac a oes angen unrhyw gytundebau ysgrifenedig ychwanegol rhwng y Swyddog Cofrestru Etholiadol a rheolwyr data y setiau data gwahanol rydych angen eu cyrchu.