Pa weithgarwch cofrestru etholiadol ddylid ei barhau drwy gydol y flwyddyn yn dilyn y canfasiad blynyddol?
Cynnal cywirdeb a chyflawnder y gofrestr drwy gydol y flwyddyn
Mae pwyslais drwy gydol y flwyddyn ar gofrestru yn allweddol i sicrhau bod gennych hyder yng nghyflawnder a chywirdeb y gofrestr, ac yn gallu parhau i’w chynnal.
Dylech adolygu eich cynlluniau cofrestru a’ch strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd bresennol yn dilyn y canfasiad blynyddol i gyfleu unrhyw gynlluniau ar gyfer y flwyddyn ganlynol, megis cynnal y prosesau cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, anfon ffurflenni ymholi ynghylch cofrestru, caffael diweddariadau data rheolaidd ar gyfer cyrhaeddwyr a chartrefi gofal ac unrhyw gynlluniau i gynnwys gweithgarwch lleol mewn digwyddiadau cenedlaethol megis Wythnos Genedlaethol Democratiaeth.
Bydd angen i chi benderfynu pa gamau, os unrhyw rai, y byddwch yn eu cymryd mewn perthynas ag eiddo nad yw wedi ymateb i gyfathrebiadau ynghylch y canfasiad lle’r oedd ymateb yn ofynnol ac mae camau ail-gysylltu ac atgoffa wedi cael eu cynnal.
Rydych yn gallu ystyried diffyg ymateb i gyfathrebiadau ynghylch y canfasiad lle’r oedd ymateb yn ofynnol fel un darn o dystiolaeth ar gyfer y diben o adolygu hawl etholwr i barhau wedi cofrestru.
Dylech ystyried a fyddwch yn gwirio data lleol ymhellach i chwilio am ail ddarn o dystiolaeth nad yw etholwr yn breswylydd mwyach er mwyn eich galluogi i’w ddileu o’r gofrestr neu a fyddwch yn cynnal unrhyw adolygiadau o hawl etholwr i barhau wedi cofrestru.
Ymholiadau heb eu cwblhau, tystiolaeth ddogfennol a phrosesau ardystio
Dylech barhau i fynd ar drywydd unrhyw geisiadau agored am ardystiadau neu dystiolaeth ddogfennol sydd eu hangen i gwblhau’r broses geisio a dylech adolygu eich cynlluniau ar gyfer mynd ar drywydd diffyg ymatebion i wahoddiadau i gofrestru drwy gydol y flwyddyn.
Bydd angen i chi gadw trywydd archwilio i ddangos pa gamau rydych wedi’u cymryd.