| Argraffu'r canllawiau llawn

Duty to register eligible local government electors without applications

Dyletswydd i gofrestru etholwyr llywodraeth leol cymwys heb geisiadau

Mae’r adran hon yn cynnwys canllawiau ar y camau y dylech eu cymryd fel y Swyddog Cofrestru Etholiadol i gydymffurfio â’ch dyletswydd i gymryd y camau angenrheidiol i nodi enwau a chyfeiriadau unigolion nad ydynt wedi cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol a chofrestru’r etholwyr cymwys hyn heb geisiadau.1

Mae’r ddyletswydd yn berthnasol os:2   

  • ydych yn ymwybodol o enw a chyfeiriad unigolyn
  • nad yw’r unigolyn hwnnw wedi cofrestru ar y gofrestr etholiadol llywodraeth leol ar gyfer eich ardal
  • ydych yn fodlon bod ganddo’r hawl i gofrestru

Mae’r dyletswyddau o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 gan y Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (adrannau 3 a 4) a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cofrestru Etholiadol heb Geisiadau) (Diwygio Etholiadol) (Cymru) 2026.3

Mae’r ddeddfwriaeth yn golygu bod rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru4  

  • fel isafswm, gynnal ymarfer paru data i nodi etholwyr sydd heb gofrestru o leiaf unwaith y flwyddyn
  • anfon hysbysiad cofrestru i’r etholwyr hynny sydd heb gofrestru a nodwyd, gan roi cyfnod hysbysu o 28 diwrnod iddynt lle y gallant optio allan o’r broses cofrestru awtomatig am resymau rhagnodedig
  • ychwanegu pobl nad ydynt wedi optio allan at y gofrestr llywodraeth leol gyda marciwr J, ar ôl i’r cyfnod hysbysu o 28 diwrnod fynd heibio

Ar gyfer bodloni’r gofynion, mae’n rhaid i’r broses paru data ddechrau cyn diwedd pob blwyddyn galendr.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2026