Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Anfon gwahoddiadau i gofrestru o ganlyniad i weithgareddau cofrestru yn awtomatig
Pan mae etholwr wedi’i nodi drwy unrhyw broses cofrestru yn awtomatig a’i fod o bosibl yn gymwys i gofrestru o ran etholiadau Senedd y DU, mae’n rhaid i chi anfon gwahoddiad i gofrestru at yr etholwr hwnnw. Mae’n rhaid anfon hwn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac ymhen 28 diwrnod o’r dyddiad rydych yn dod yn ymwybodol ohonynt.1
Rydym yn argymell eich bod yn anfon gwahoddiad i gofrestru at unrhyw etholwr a all hefyd fod yn gymwys i gofrestru ar gyfer etholiadau Senedd y DU ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon ei hysbysiad cofrestru.
Mae’r manteision o anfon y ddwy ohebiaeth ar yr un pryd yn cynnwys:
- gostyngiad mewn costau postio
- galluogi rheoli’r ddwy broses gyda’i gilydd i gael y defnydd gorau o’ch adnoddau
- galluogi negeseuon cliriach felly’n lleihau dryswch posibl i bleidleiswyr
Lle nad yw etholwr wedi ymateb i wahoddiad i gofrestru ymhen 28 diwrnod, dylech anfon nodyn atgoffa gwahoddiad i gofrestru. Os ar y pwynt hwn mae’r etholwr wedi ei gofrestru dan y broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gallai hwn gael ei ategu gan hysbysiad pellach yn egluro ei fod wedi cofrestru ar gyfer y gofrestr llywodraeth leol yn unig ond nad oes ymateb i’r gwahoddiad i gofrestru wedi dod i law hyd yma.
Mae’r canlynol yn eithriadau i’r gofyniad i anfon gwahoddiad i gofrestru:
- mae etholwr wedi gwneud cais i gofrestru ei hun yn ystod y ffenestr cofrestru awtomatig
- mae data yn nodi etholwr fel naill ai:
- dinesydd tramor cymwys - caiff yr etholwyr hyn eu hychwanegu at y gofrestr gyda marciwr M ac maent yn anghymwys i gofrestru ar gyfer etholiadau Senedd y DU
- mae’r etholwr yn 14 neu 15 mlwydd oed ac nid yw’n gymwys ar hyn o bryd i gael ei ychwanegu fel unigolyn sydd ar fin cyrraedd yr oedran pleidleisio mewn perthynas â chofrestr Seneddd y DU[
O ganlyniad i anfon gwahoddiad i gofrestru, efallai y byddwch yn gweld eich bod yn cael ceisiadau i gofrestru yn ystod y cyfnod hysbysu. Dylech brosesu’r rhain fel yr arfer a phan rydych wedi penderfynu ar ei gais, ychwanegwch yr etholwr hwnnw at y gofrestr(au) etholiadol gyda’r etholfraint berthnasol sy’n briodol ar gyfer ei genedligrwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar brosesu ceisiadau a diwygiadau i’r gofrestr.
Dylech sicrhau wrth brosesu ychwanegiadau at y gofrestr eich bod yn cadw llygad am gofnodion dyblyg posibl, neu gofnodion sy’n debyg ond nad ydynt union yr un fath o ganlyniad i ddata lleol sy’n cynnwys fersiynau o enwau sydd ychydig yn wahanol neu sy’n cynnwys neu’n hepgor enwau canol. Bydd angen i chi wneud ymholiadau pellach os nad yw’n glir a ydynt yn bobl wahanol.
Dylech hefyd anfon gwahoddiad i gofrestru at etholwyr posibl sydd wedi optio allan o gael eu cofrestru yn awtomatig a hefyd at unrhyw etholwyr posibl rydych wedi’u nodi lle nad oes gennych ddigon o ddata i gyhoeddi hysbysiad cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Er enghraifft, lle rydych wedi nodi etholwr posibl ond mae gennych un darn o ddata yn unig.
- 1. Adran 9E, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, a rheoliad 32ZC(3)(A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1