Tystiolaeth i gadarnhau pwy yw ymgeisydd sydd am gofrestru fel etholwr tramor

Gall ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol pan fydd yn gwneud cais neu mewn ymateb i gais gennych chi pan fyddwch yn prosesu ei gais. 

Cewch ddefnyddio tystiolaeth ddogfennol i gadarnhau pwy yw ymgeisydd o dan yr amgylchiadau canlynol: 

  • ni ellir paru ei ddynodyddion personol yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau na ffynonellau data lleol
  • ni all ddarparu rhai o'r dynodyddion personol gofynnol, neu ddim un ohonynt 

Gellir lanlwytho tystiolaeth ddogfennol ar y cyd â chais ar-lein neu ei chyflwyno i'ch swyddfa â llaw, drwy'r post neu fel atodiad i e-bost. Dylai unrhyw gopïau o ddogfennau a ddarperir gan ymgeiswyr gael eu storio'n ddiogel yn yr un ffordd â ffurflenni cais. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gadw gwybodaeth a gyflwynir gyda cheisiadau.

Dylech fod yn fodlon bod y copïau a roddir i chi yn ymddangos yn ddilys. Os byddwch yn amau nad yw dogfen yn ddilys, gallwch ofyn i'r ymgeisydd gyflwyno dogfennau gwreiddiol neu dystiolaeth ddogfennol amgen yn y lle cyntaf. Os na fydd dogfennau gwreiddiol neu dystiolaeth ddogfennol amgen ar gael, dylech gyfeirio'r ymgeisydd at y broses ardystio neu wrthod y cais.

Os nad yw'n ymddangos bod tystiolaeth ddogfennol yn ddilys, dylech roi gwybod i'r ymgeisydd am y cosbau a roddir am gyflwyno gwybodaeth anwir a rhoi gwybod i'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu os byddwch yn amau bod gwybodaeth anwir wedi cael ei chyflwyno o bosibl.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar wiriadau dilysrwydd dogfennau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023