Gofynion proses ardystio hunaniaeth ar gyfer cais etholwr tramor

Ardystio yw'r opsiwn olaf yn y broses o gadarnhau pwy yw ymgeisydd. Dim ond ar ôl dilyn pob un o'r camau dilysu eraill, sef proses baru'r Adran Gwaith a Phensiynau, paru data lleol (lle y bo'n briodol) a'r broses eithriadau, heb lwyddo i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd, y gall ymgeisydd ddefnyddio'r broses ardystio i brofi pwy ydyw.  1

Ardystio yw'r opsiwn olaf yn y broses o gadarnhau pwy yw ymgeisydd. Dim ond ar ôl dilyn pob un o'r camau dilysu eraill, sef proses baru'r Adran Gwaith a Phensiynau, paru data lleol (lle y bo'n briodol) a'r broses eithriadau, heb lwyddo i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd, y gall ymgeisydd ddefnyddio'r broses ardystio i brofi pwy ydyw.  2

Rhaid i ardystiad hunaniaeth ar gyfer cais i gofrestru fel etholwr tramor gynnwys pob un o’r canlynol:

  • cadarnhau mai'r ymgeisydd yw'r sawl a enwir yn y cais 3
  • bod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan yr ardystiwr cymwys 4
  • nodi enw llawn, dyddiad geni, galwedigaeth a chyfeiriad preswyl yr ardystiwr cymwys ac (os yw’n wahanol) y cyfeiriad y mae’r ardystiwr cymwys wedi’i gofrestru fel etholwr ynddo 5
  • nodi – 
    • rhif pasbort Prydeinig yr ardystiwr cymwys ynghyd â'i ddyddiad a'r man lle cafodd ei gyhoeddi, os yw'r ardystiwr yn etholwr tramor 6  neu
    • rhif etholiadol yr ardystiwr cymwys os yw'r ardystiwr yn etholwr domestig neu'n bleidleisiwr yn y lluoedd arfog 7  [neu Rif Cofrestru Digidol yr ymgeisydd os yw'r ardystiwr cymwys wedi'i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon]
  • cynnwys esboniad o allu'r ardystiwr cymwys i gadarnhau mai'r ymgeisydd yw'r sawl a enwir yn y cais, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cysylltiad yr ardystiwr cymwys â'r ymgeisydd ac am ba hyd y mae'r cysylltiad hwnnw wedi bodoli  8
  • cynnwys arwydd bod yr ardystiwr cymwys yn ymwybodol ei bod hi’n drosedd darparu gwybodaeth ffug i’r swyddog cofrestru  9
  • cynnwys datganiad gan yr ardystiwr cymwys bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn yr ardystiad yn wir 10
  • nodi'r dyddiad y gwnaed yr ardystiad 11

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023