Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Cynnwys yr hysbysiadau o anghysondeb
Rydym wedi llunio tabl sy’n nodi’r wybodaeth ofynnol y mae’n rhaid ei chynnwys yn yr hysbysiadau o anghysondeb.
| Math o anghysondeb | Cynnwys rhagnodedig yr hysbysiad |
|---|---|
| Cyfeiriad y bleidlais bost1 | Hysbysu'r etholwr:
|
| Hepgor llofnod2 | Hysbysu'r etholwr:
|
| Enw a/neu gyfeiriad y dirprwy3 | Hysbysu'r etholwr:
|
Pleidlais drwy’r post etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol / pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu4 Neu Pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol / pleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu5 | Hysbysu’r etholwr bod ganddo drefniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a threfniant pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Neu Hysbysu’r etholwr bod ganddo drefniant pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a threfniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Hysbysu’r etholwr bod rhaid i’w drefniadau pleidleisio absennol fod yr un fath ar gyfer yr holl etholiadau. Hysbysu’r etholwr os na chaiff cais newydd i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy ei wneud i gael gwared ar yr anghysondeb erbyn y diwrnod perthnasol, bydd ei drefniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol yn dod i ben ar y diwrnod perthnasol. |
Yn ogystal â’r cynnwys rhagnodedig, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth glir ynghylch:
- manylion yr anghysondeb
- sut i ddiwygio unrhyw drefniant pleidleisio absennol sydd ar waith
- y cymwysterau y mae’n ofynnol i unigolyn sy’n cael ei benodi’n ddirprwy eu bodloni (pan fo’n briodol), sy’n tynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng gofynion etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol, sy’n egluro bod rhaid i unigolyn a benodir ar gyfer y ddau fod yn gymwys ar gyfer y ddau. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein canllawiau ar y cymwysterau ar gyfer gweithredu fel dirprwy
- pa drefniadau pleidleisio absennol a fyddai’n parhau ar waith os nad yw’n gwneud cais newydd
Dylech gynnwys ffurflen gais bapur ar gyfer pleidlais bost, ac amlen gyda’r cyfeiriad arni eisoes ac wedi’i rhagdalu er mwyn i’r ffurflen gais gael ei dychwelyd ynddi. Dylech hefyd gynnwys eich manylion cyswllt perthnasol, sef e-bost neu rif ffôn.
Dylech ystyried sut i reoli amgylchiadau o ran adegau y mae etholwr yn cael hysbysiad o anghysondeb ac yn sgil hynny yn penderfynu ei fod yn dymuno newid y wybodaeth yn ei drefniant etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu neu ddiweddaru ei drefniadau etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a threfniadau etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn lle. Bydd hyn yn cynnwys cyfeirio at yr opsiynau ar gyfer cwblhau cais etholiadau newydd ar gyfer Senedd y DU a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ynghyd â, neu’n lle diweddaru ei drefniant etholiadau ar gyfer y Senedd a’r Llywodraeth leol.
Rydym wedi llunio templedi o hysbysiadau o anghysondeb sydd ar gael yn adran pleidleisio absennol y dudalen adnoddau.
Anghysondebau o ran dyddiad geni
Yn ystod eich gwaith paratoi ar gyfer y broses gydgyfeirio, efallai y byddwch yn canfod cofnodion ar gyfer unigolyn lle y mae anghysondeb o ran dynodwr dyddiad geni yn bodoli rhwng cofnodion a allai effeithio ar eich gallu i gyfuno cofnodion pleidleisio absennol.
Mae eich dyletswydd i gynnal cofnodion sy’n gywir ac yn gyflawn yn golygu bod gennych y pŵer i gymryd camau i geisio datrys yr anghysondebau hyn. Gallai hyn fod drwy gysylltu â’r etholwyr neu archwilio unrhyw ddata lleol perthnasol.
Nid oes unrhyw broses ragnodedig ar gyfer ymdrin ag anghysondebau o ran dyddiad geni, ond dylech sicrhau eich bod yn cadarnhau’r data a gedwir gyda digon o amser i allu rhoi unrhyw newidiadau ar waith cyn y diwrnod perthnasol.
Nid oes gofyn i chi ysgrifennu at yr etholwr yn yr amgylchiadau hyn, ond os oes gennych rif ffôn neu gyfeiriad e-bost, gallech ddefnyddio un o’r rhain i ofyn am yr wybodaeth. Dylech sicrhau bod trywydd archwilio clir yn cael ei gadw, pa un bynnag ddull rydych yn ei ddewis.
Os nad ydych chi’n fodlon bod y wybodaeth a gedwir yn gywir ac nad ydych yn gallu cadarnhau’r dyddiad geni cywir, dylid canslo’r trefniadau pleidleisio absennol. Dylech yna hysbysu’r etholwr ac anfon gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais arall.
Mae templed o lythyr ar gael ar gyfer rheoli anghysondebau o ran dyddiad geni yn ein templedi o hysbysiadau o anghysondeb sydd ar gael yn adran pleidleisio absennol ein tudalen adnoddau.
- 1. Rheoliad 34, Rhan 7, Rheoliadau Pleidleisio Absennol (Diwygiad Amrywiol) (Cymru) 2026 (AVR 2026) (Cymru) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 36, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 37, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 38, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 39, Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 5