| Argraffu'r canllawiau llawn

Rheoli canlyniadau yn dilyn y broses ysgrifennu

Mae’n rhaid i geisiadau newydd a wneir mewn ymateb i’r hysbysiad o anghysondeb gael eu cyflwyno a gwneud penderfyniad arnynt erbyn y diwrnod perthnasol.1

Mae angen i chi wirio bod unrhyw gais newydd yn eich galluogi i gyflawni’r gwaith o gydgyfeirio cofnodion ar gyfer yr etholwr hwnnw ac nid yw’n codi anghysondeb newydd. Os daw anghysondeb newydd i law, bydd angen i chi gysylltu â’r etholwr eto i fynd i’r afael â’r anghysondeb newydd cyn y dyddiad perthnasol.

Pan fyddwch wedi cael cais newydd ac wedi gwneud penderfyniad arno cyn y diwrnod perthnasol, mae’n rhaid i chi ddiweddaru’r cofnodion pleidleisio absennol perthnasol fel sy’n briodol ar gyfer yr etholwr hwnnw.2

Yn dilyn y diwrnod perthnasol, bydd cais newydd ar gyfer pleidlais absennol yn cymryd lle’r holl drefniadau blaenorol ar gyfer unrhyw fath o etholiad yn llwyr gan mai un cofnod yn unig fydd ar gael.

Am ragor o wybodaeth ynghylch prosesu ceisiadau pleidleisio absennol ar ôl y diwrnod perthnasol ac ar ôl y broses gydgyfeirio, edrychwch ar ein canllawiau ar drefniadau trosiannol ar gyfer ceisiadau pleidleisio post neu drefniadau trosiannol ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy ddirprwy fel sy’n briodol.

Dylech ysgrifennu i gadarnhau unrhyw drefniant pleidleisio absennol newydd.  

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein canllawiau ar gadarnhau canlyniad cais am bleidlais bost neu gadarnhau canlyniad cais am bleidlais drwy ddirprwy.

Pa gam i’w gymryd pan na cheir unrhyw ymateb 

Ar gyfer achosion lle’r ydych wedi cyhoeddi hysbysiad o anghysondeb a heb gael cais newydd sy’n mynd i’r afael â’r anghysondebau canlynol: 

  • gwahaniaethau rhwng cyfeiriad y bleidlais bost3
  • trefniant hepgor llofnod ar waith ar gyfer un trefniant ond nid ar gyfer y llall4
  • gwahaniaethau rhwng enw a/neu gyfeiriad y dirprwy5
  • trefniadau pleidleisio drwy’r post etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a threfniadau pleidleisio drwy ddirprwy etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu6
  • trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a threfniadau pleidleisio drwy’r post etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu7

Bydd trefniant pleidleisio absennol etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol yn dod i ben ar y diwrnod perthnasol.

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y diwrnod perthnasol, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cofnodion sy’n gysylltiedig â’r etholiadau Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol hyn yn cael eu diweddaru i adlewyrchu bod y trefniadau wedi dod i ben.8

Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y diwrnod perthnasol, mae’n rhaid i chi anfon hysbysiad at yr etholwr i’w gyfeiriad cymhwyso sy’n ei hysbysu:9

  • bod ei drefniant pleidleisio absennol ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol wedi dod i ben
  • pam mae wedi dod i ben 
  • effaith dod â’r trefniant hwnnw i ben  
  • sut i wneud cais newydd. 

Dylech gynnwys cadarnhad o’r trefniant pleidleisio absennol ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu sy’n weddill. Rydym wedi llunio templedi o hysbysiadau sydd ar gael yn adran pleidleisio absennol ein tudalen adnoddau.

Apeliadau

Nid oes unrhyw drywydd archwilio pan fo trefniant pleidleisio absennol etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol wedi dod i ben o ganlyniad i’r broses hysbysu am anghysondeb.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2026