Gwrthwynebiadau sy'n dod i law o fewn pum diwrnod gwaith i restru cais

Os byddwch yn cael gwrthwynebiad i gais i gofrestru o fewn pum diwrnod i'w restru, rhaid i chi ohirio'r cais nes byddwch yn penderfynu ar y gwrthwynebiad. 

Yr unig eithriad i hyn yw os byddwch o'r farn nad oedd teilyngdod i'r gwrthwynebiad, yn amlwg - yn yr achos hwn, dylech barhau i brosesu'r cais.

Wrth wneud eich penderfyniad, gallwch wneud y canlynol:

  • Penderfynu nad oedd teilyngdod i'r gwrthwynebiad, yn amlwg
    • Mewn achos o'r fath, rhaid i chi ysgrifennu at y gwrthwynebydd a'i hysbysu o'ch penderfyniad. Ni chaiff y cais ei ohirio a gellir penderfynu arno. Gall y gwrthwynebydd ofyn am wrandawiad o hyd.1 Os gofynnir am wrandawiad, dylech benderfynu ar y cais o hyd ac ychwanegu'r ymgeisydd at y gofrestr os yw'n briodol, ond rhaid i chi hefyd gynnal y gwrandawiad ar y gwrthwynebiad.2  
  • Hysbysu'r gwrthwynebydd nad oes ganddo hawl i wrthwynebu. 
    • Mewn achos o'r fath, rhaid i chi hysbysu'r gwrthwynebydd o'ch penderfyniad. Ar y cam hwnnw, caiff y gwrthwynebiad ei wrthod a gallwch benderfynu ar y cais.3  
  • Dod i'r casgliad bod penderfyniad llys yn cwmpasu'n benodol y materion a godwyd gan y gwrthwynebiad. 
    • Mewn achos o'r fath, ni ellir derbyn gwrthwynebiad a rhaid i chi ysgrifennu at y gwrthwynebydd a'i hysbysu o'ch penderfyniad. Ar y cam hwnnw, caiff y gwrthwynebiad ei wrthod a gallwch benderfynu ar y cais.4  
  • Penderfynu a oedd teilyngdod i'r gwrthwynebiad ai peidio. 
    • Mewn achos o'r fath, caiff y cais ei ohirio a rhaid i chi gynnal gwrandawiad. Rhaid i chi benderfynu ar y gwrthwynebiad a'r cais yn seiliedig ar ganlyniad y gwrandawiad. 
       
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021