Gallwch wrthod gwrthwynebiad heb fod angen gwrandawiad, lle:1
nad oedd gan y gwrthwynebydd hawl i wrthwynebu, er enghraifft, nid oedd yn etholwr cofrestredig yn eich ardal
nad oedd teilyngdod i'r gwrthwynebiad, yn amlwg
datryswyd y mater yn y llys eisoes
nad yw'r manylion a roddwyd yn y gwrthwynebiad yn caniatáu iddo lwyddo
Ymysg yr enghreifftiau o wrthwynebiadau nad oedd teilyngdod iddynt, yn amlwg, neu lle nad yw'r manylion a roddwyd yn caniatáu iddynt lwyddo mae:
gwrthwynebiadau yn seiliedig ar genedligrwydd person lle mae'n genedligrwydd cymwys
pan fydd y gwrthwynebydd o'r farn nad yw'r etholwr yn berchen ar yr eiddo y mae'n byw ynddo ac felly na ddylai fod wedi'i gofrestru
Os byddwch yn gwrthod gwrthwynebiad, rhaid i chi hysbysu'r gwrthwynebydd o hyn, gan nodi eich rhesymau. Gall y gwrthwynebydd ofyn am wrandawiad o fewn tri diwrnod i'ch penderfyniad i'w wrthod.2
Rhaid i'r gwrthwynebydd fod yn etholwr cofrestredig yn ardal yr awdurdod lleol, ond nid oes angen iddo fod yn yr un ward.3
Os caiff gwrthwynebiad ei wrthod am nad oedd gan y gwrthwynebydd hawl i wrthwynebu, rhaid i chi hysbysu'r gwrthwynebydd.