Rhaid i chi gynnal gwrandawiad i benderfynu ar wrthwynebiad, oni fyddwch yn gwrthod gwrthwynebiad ar un o'r seiliau canlynol:1
nid oes gan y gwrthwynebydd hawl i wrthwynebu
nid oedd teilyngdod i'r gwrthwynebiad, yn amlwg
mae llys wedi penderfynu ar y mater
nid yw'r rhesymau dros y gwrthwynebiad yn rhesymau dilys dros wrthwynebiad
Yn ogystal â hynny, os byddwch yn gwrthod gwrthwynebiad heb wrandawiad, gall y gwrthwynebydd ofyn am i un gael ei gynnal. Rhaid i'r cais hwn gael ei wneud o fewn tri diwrnod gwaith o ddyddiad yr hysbysiad sy'n hysbysu'r gwrthwynebydd o'ch penderfyniad.2
Oherwydd y terfynau amser, dylech dderbyn hysbysiad o'r cais i gynnal gwrandawiad ar ffurf nodyn ysgrifenedig, e-bost, ffacs neu ar lafar.
Dylech sicrhau, unwaith y penderfynir gwrthod gwrthwynebiad, fod yr hysbysiad a anfonir at y gwrthwynebydd yn cael ei ddyddio a'i anfon ar yr un diwrnod.
Pan gaiff gwrandawiad ei gynnal, rhaid anfon hysbysiad o wrandawiad at y gwrthwynebydd a'r ymgeisydd neu'r etholwr sy'n destun gwrthwynebiad. Rhaid i'r hysbysiad nodi'r canlynol:3
amser a lleoliad y gwrandawiad
enw a chyfeiriad y gwrthwynebydd
y rheswm dros y gwrthwynebiad
Bydd manylion y gwrthwynebydd ar gael i'r ymgeisydd neu'r etholwr.4