Trefniadau ar gyfer gwrandawiad ar gais neu wrandawiad ar wrthwynebiad

Rhaid i wrandawiad a drefnir gennych gael ei gynnal o leiaf dri diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad o wrandawiad a saith diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad hwnnw fan bellaf.1
 
Mae gan yr ymgeisydd, neu, yn achos gwrthwynebiad, y gwrthwynebydd a'r ymgeisydd neu'r etholwr sy'n destun gwrthwynebiad, hawl i fod yn bresennol yn y gwrandawiad, yn ogystal ag unrhyw un sy'n ymddangos bod ganddynt ddiddordeb, yn eich barn chi.2
 
Gall unrhyw un sydd â hawl i fod yn bresennol fynd i'r gwrandawiad yn bersonol, neu wneud cynrychiolaeth ysgrifenedig neu gael rhywun arall i fod yn bresennol ar ei ran.3 Dylech sicrhau bod cynifer o bartïon perthnasol â phosibl yn cael y cyfle i fod yn bresennol, yn arbennig yr ymgeisydd neu, yn achos gwrthwynebiad, y gwrthwynebydd a'r ymgeisydd neu'r etholwr sy'n destun gwrthwynebiad.

Gallwch ei gwneud yn ofynnol bod unigolion sy'n rhoi tystiolaeth yn tyngu llw, naill ai am fod un o'r bobl sydd â hawl i fod yn bresennol yn gofyn am hynny, neu am fod gwneud hynny'n ddymunol yn eich barn chi.4 Er y gallwch weinyddu'r llw eich hun, dylech ofyn am gyngor eich tîm cyfreithiol i sicrhau bod y llw ar y ffurf gywir a bod yr opsiynau crefyddol ac anghrefyddol priodol ar gael.

Os bydd y bobl sydd â hawl i fod yn bresennol yn dweud wrthych na allant fod yn bresennol ar y dyddiad a nodwyd, dylech geisio aildrefnu'r gwrandawiad os oes modd o fewn y cyfnod a ganiateir. 

Gallwch barhau i gynnal y gwrandawiad o hyd a phenderfynu ar gais/gwrthwynebiad yn y gwrandawiad hyd yn oed os bydd y gwrthwynebydd, yr ymgeisydd neu'r etholwr sy'n destun gwrthwynebiad yn methu bod yn bresennol. Dylech ystyried unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig, megis llythyr neu ffurflen, a ddarperir gan yr ymgeisydd, yr etholwr neu'r gwrthwynebydd, yn eu habsenoldeb.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021