Adolygiad Math A

Dylid cynnal adolygiadau Math A pan fyddwch o'r farn bod y canlynol yn wir am yr etholwr

  • nid oes, neu nid oedd, ganddo hawl i fod wedi'i gofrestru, neu
  • mae ganddo gofnod ar y gofrestr sy'n deillio o gais a wnaed gan berson arall (h.y. nid yr unigolyn y darparwyd ei fanylion ac a ddatganodd bod y wybodaeth a ddarparwyd ar y cais yn wir), neu a newidiwyd o ganlyniad i hynny.

Er enghraifft, os byddwch yn cael gwybodaeth nad yw person yn byw mewn cyfeiriad penodol mwyach, ac nad ydych wedi gallu cael ail ffynhonnell o dystiolaeth i gefnogi penderfyniad i ddileu, gallech gynnal adolygiad math A.

Rhaid i'r hysbysiad i'r etholwr nodi:

  • yn eich barn chi, nad oes neu nad oedd gan y person hawl i fod wedi'i gofrestru neu fod ganddo gofnod ar y gofrestr sy'n deillio o gais a wnaed gan berson arall neu a newidiwyd o ganlyniad i hynny, a nodi'r rhesymau dros eich barn1  
  • os na fydd yr etholwr yn gwneud cais am wrandawiad o fewn 14 diwrnod calendr sy'n dechrau o ddyddiad yr hysbysiad, y gallech wneud penderfyniad a dileu ei gofnod oddi ar y gofrestr
  • os na fydd wedi gwneud cais am wrandawiad o fewn y cyfnod o 14 diwrnod calendr na fydd ganddo hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i ddileu ei gofnod oddi ar y gofrestr 
  • ar ôl y cyfnod o 14 diwrnod calendr, y gall gysylltu â chi os bydd ei gofnod wedi cael ei ddileu oddi ar y gofrestr

Mae'r cyfnod o 14 diwrnod calendr yn rhedeg o ddyddiad yr hysbysiad, felly dylech ddyddio'r hysbysiad ar y dyddiad y caiff ei anfon.

Os na fydd yr etholwr yn gofyn am wrandawiad o fewn 14 diwrnod calendr, rhaid i chi benderfynu ar yr adolygiad gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd gennych ac unrhyw wybodaeth a gyflwynwyd gan yr etholwr neu unrhyw barti arall.2 Os byddwch yn penderfynu nad oes neu nad oedd gan yr etholwr hawl i fod wedi'i gofrestru, neu fod ganddo gofnod ar y gofrestr sy'n deillio o gais a wnaed gan berson arall neu a newidiwyd o ganlyniad i hynny, rhaid i chi ddileu'r cofnod.3


Hysbysiad o ganlyniad adolygiad math A


Os na wnaeth yr etholwr gais am wrandawiad neu os na wnaeth sylwadau, ni fydd yn ofynnol i chi ei hysbysu o ganlyniad yr adolygiad, ond gallwch wneud hynny os byddwch yn ystyried bod hynny'n briodol. Os byddwch yn hysbysu'r etholwr, rhaid i chi nodi na fydd ganddo hawl i apelio.

Os bydd yr etholwr wedi gwneud sylwadau neu wedi gwneud cais am wrandawiad, rhaid i chi ei hysbysu o ganlyniad yr adolygiad a nodi a oes ganddo hawl i apelio, yn cynnwys:4  

  • y terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl 
  • unrhyw wybodaeth arall am yr apêl sy'n briodol, yn eich barn chi
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021