Adolygiad Math B

Dylech gynnal adolygiad math B pan fydd gennych amheuon ynghylch a yw'r person yn bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwysedd ond na allwch gadarnhau hyn drwy ddefnyddio cofnodion eraill gan y cyngor er enghraifft, ac nad yw'r etholwr wedi ymateb i unrhyw gais blaenorol am wybodaeth. 

Gellir hefyd defnyddio adolygiad math B pan fydd angen gwybodaeth ychwanegol arnoch i sefydlu cymhwysedd etholwr i barhau i fod wedi’u cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu – er enghraifft, yn achos dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir, pa mor hir y maent wedi byw yn y DU.    

Mae adolygiadau math B yn eich galluogi i'w gwneud yn ofynnol i'r etholwr ddarparu tystiolaeth o'r canlynol:

  • oedran
  • cenedligrwydd
  • gwybodaeth am unrhyw agwedd arall mewn cysylltiad â'r gofynion ar gyfer cofrestru 

Rhaid i'r hysbysiad i'r etholwr nodi:1  

  • nad ydych yn fodlon bod gan yr etholwr hawl i fod wedi'i gofrestru
  • eich rheswm dros yr adolygiad
  • gofyniad iddo ddarparu tystiolaeth o oedran neu genedligrwydd fel sy'n briodol 
  • ar gyfer adolygiadau sy’n gysylltiedig ag etholiadau CHTh o ddinasyddion yr UE yn unig, bod cymhwysedd i bleidleisio mewn etholiadau CHTh yn ddim yn gysylltiedig a chymhwysedd i bleidleisio yn etholiadau Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol  

Dylai'r hysbysiad nodi bod gan yr etholwr 28 diwrnod calendr o ddyddiad yr hysbysiad i roi'r wybodaeth ofynnol ac os na fydd yn gwneud hynny, gellir dileu ei gofnod oddi ar y gofrestr. Dylech nodi ei bod yn drosedd darparu gwybodaeth anwir i chi.
 
Os na fydd yr etholwr wedi cyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth foddhaol o fewn 28 diwrnod, dylech symud ymlaen i adolygiad Math A.2
 
Os bydd yr etholwr wedi cyflwyno tystiolaeth neu wybodaeth o fewn 28 diwrnod, rhaid i chi hysbysu'r etholwr o ganlyniad yr adolygiad a nodi a oes ganddo hawl i apelio, yn cynnwys:3  

  • y terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl 
  • unrhyw wybodaeth arall am yr apêl sy'n briodol, yn eich barn chi

Gall fod amgylchiadau lle byddwch yn penderfynu y dylid dileu cofnod etholwr oddi ar y gofrestr seneddol ond y gellid ei gadw ar y gofrestr llywodraeth leol. Er enghraifft, efallai na fydd ei genedligrwydd yn ei gwneud yn gymwys i gael ei gynnwys ar y gofrestr seneddol. Yn yr un modd, gall fod amgylchiadau lle rydych yn pennu y dylid tynnu etholwr oddi ar y rhestr o bobl sy’n gallu pleidleisio mewn etholiadau CHTh ond gellid eu cadw ar gofrestr y Senedd a llywodraeth leol. Er enghraifft, yn achos dinasyddion yr UE nad ydynt yn bodloni’r gofynion preswylio hanesyddol.


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024