Casglu Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro

Rhaid i chi drefnu i'r ymgeisydd allu casglu'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro yn bersonol.1

Os bydd yr ymgeisydd yn nodi bod angen esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro arno, rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd drefnu i esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r ddogfen a gyflwynwyd gael ei ddarparu pan gaiff y ddogfen ei chasglu.2 Bydd cynlluniau hawdd eu deall a phrint bras ar gael ar-lein a chyflenwir stoc o gopïau caled Braille i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy'r cyflenwr sydd wedi'i gaffael yn ganolog a benodwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Os bydd angen i chi archebu rhagor o stoc, bydd angen i chi gysylltu â'r cyflenwr. 

Rhaid i chi hysbysu'r ymgeisydd:3

  • fod y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro ar gael i'w chasglu
  • ble a phryd y gellir casglu'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro
  • mai dim ond yr ymgeisydd all gasglu'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro yn bersonol

Gellir casglu'r ddogfen o unrhyw le y bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol a'r ymgeisydd yn cytuno arno. Gallai hyn gynnwys casglu'r ddogfen o orsaf bleidleisio. Os nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau hefyd, byddai angen i chi weithio gyda'r Swyddog Canlyniadau perthnasol i benderfynu ar y broses ar gyfer casglu'r ddogfen o orsaf bleidleisio. Dylech sicrhau bod prosesau ar waith i gynnal trywydd archwilio clir a sicrhau diogelwch Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr wrth iddynt gael eu cludo neu pan fyddant yn aros i gael eu casglu o unrhyw fan casglu heblaw am swyddfa'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.

Os byddwch yn cytuno i ganiatáu i'r ymgeisydd gasglu ei Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, dylech ystyried sut y byddwch yn bodloni eich hun eich bod wedi cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd, oherwydd ni allwch ddibynnu ar edrych ar y llun yn unig at ddibenion uniondeb. Dylid cymryd camau cymesur sy'n ceisio defnyddio rhyw fath o brawf adnabod y gellir ei gadarnhau'n hawdd gan staff, ond nad yw'n rhy feichus ar yr etholwr.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022