Dosbarthu neu gasglu Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr parhaol
Rhaid anfon y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy'r post i gyfeiriad yr ymgeisydd.1
Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr yn nodi ar eu cais eu bod yn meddwl, am reswm penodol, fod angen iddynt gasglu eu dogfen yn bersonol.2
Os bydd yr ymgeisydd yn nodi bod angen esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr arno, rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd drefnu i esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r ddogfen a gyflwynwyd gael ei anfon gyda'r ddogfen neu ei ddarparu pan gaiff y ddogfen ei chasglu.3
Bydd cynlluniau hawdd eu deall a phrint bras ar gael ar-lein a chyflenwir stoc o gopïau caled Braille i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy'r cyflenwr sydd wedi'i gaffael yn ganolog a benodwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Os bydd angen i chi archebu rhagor o stoc, bydd angen i chi gysylltu â'r cyflenwr.
Rhaid i chi fod yn fodlon bod angen casglu'r ddogfen yn seiliedig ar y rhesymau a roddwyd gan yr ymgeisydd. Os byddwch yn penderfynu caniatáu i'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr gael ei chasglu, rhaid i chi ddweud wrth yr ymgeisydd:
mai dim ond yn bersonol y gellir casglu'r ddogfen, a hynny gan yr ymgeisydd6
Gellir casglu'r ddogfen o unrhyw le y bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol a'r ymgeisydd yn cytuno arno. Gallai hyn gynnwys casglu'r ddogfen o'ch swyddfeydd neu orsaf bleidleisio. Os nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau hefyd, byddai angen i chi weithio gyda'r Swyddog Canlyniadau perthnasol i benderfynu ar ddichonoldeb casglu'r ddogfen o orsaf bleidleisio, a'r broses ar gyfer gwneud hyn.
Dylech sicrhau bod prosesau ar waith i gynnal trywydd archwilio clir a sicrhau diogelwch Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr wrth iddynt gael eu cludo neu pan fyddant yn aros i gael eu casglu o unrhyw fan casglu.
Os byddwch yn cytuno i ganiatáu i'r ymgeisydd gasglu ei Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, dylech ystyried sut y byddwch yn bodloni eich hun eich bod wedi cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd, oherwydd ni allwch ddibynnu ar edrych ar y llun yn unig at ddibenion uniondeb. Dylid cymryd camau cymesur sy'n ceisio defnyddio rhyw fath o brawf adnabod y gellir ei gadarnhau'n hawdd gan staff, ond nad yw'n rhy feichus ar yr etholwr.