Gohirio'r penderfyniad ynghylch ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a Dogfen Etholwr Dienw

Pan fydd mwy nag un etholiad, refferendwm neu ddeiseb berthnasol wedi'u trefnu yn agos at ei gilydd yn yr un ardal etholiadol y mae Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi'i benodi ar ei chyfer, caiff y gwaith o brosesu pob cais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y bleidlais neu'r ddeiseb gyntaf ond cyn y dyddiad cau ar gyfer y bleidlais neu'r ddeiseb ganlynol ei gohirio am gyfnod o amser. 

Bydd y cyfnod gohirio yn dechrau o 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais gyntaf neu'r diwrnod olaf ar gyfer llofnodi'r ddeiseb, ac yn gorffen am 10pm ar ddyddiad y bleidlais honno neu ar yr adeg y bydd deiseb yn cau ar y diwrnod olaf ar gyfer llofnodi'r ddeiseb.1   

Pan fydd y dyddiadau cau ar gyfer pleidlais a deiseb berthnasol yn arbennig o agos at ei gilydd (er enghraifft, bod gennych bleidlais ar ddydd Iau a'r diwrnod olaf ar gyfer deiseb yw'r dydd Gwener yn yr un wythnos) yna bydd y cyfnod gohirio yn gorffen yn gynt – ar y diwrnod gwaith cyn y bleidlais flaenorol neu ddiwrnod olaf y ddeiseb.2  Mae hyn fel bod modd penderfynu ar gais a phrosesu a chyflwyno Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw mewn pryd i'r etholwr ei defnyddio yn y bleidlais ddilynol.

Os daw cais i law yn ystod y cyfnod gohirio hwn, ni chewch benderfynu arno nes bod y cyfnod gohirio yn dod i ben a rhaid i chi roi gwybod i'r ymgeisydd am hyn.3   

Er na chewch benderfynu ar unrhyw geisiadau a geir yn ystod y cyfnod hwn, cewch gymryd yr holl gamau angenrheidiol i ddilysu'r cais yn barod i benderfynu arno unwaith y bydd y cyfnod gohirio wedi dod i ben. Bydd angen i chi roi gweithdrefnau ar waith er mwyn sicrhau nad ydych yn anfon unrhyw ddogfennau cyn i'r cyfnod gohirio ddod i ben.

Pan fydd gennych gyfnodau gohirio a fydd ond yn gorffen yn agos iawn at y diwrnod pleidleisio nesaf neu'r diwrnod olaf ar gyfer llofnodi deiseb, bydd hyn yn golygu y gwneir y penderfyniad ar ôl 5pm 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais neu'r ddeiseb. Yn yr achosion hyn, yn ogystal â phrosesu unrhyw geisiadau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr yn y ffordd arferol, gallwch hefyd gynhyrchu Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro os bydd angen er mwyn sicrhau bod pawb a wnaeth gais mewn pryd ar gyfer pleidlais neu ddeiseb benodol yn gallu cymryd rhan. 

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gyflwyno Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022