Hysbysu'r ymgeisydd yn dilyn penderfyniad ar gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw

Ceisiadau a gaiff eu cymeradwyo

Rhaid i chi roi gwybod i'r ymgeisydd pan fyddwch yn cymeradwyo ei gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw.1    

Os caiff y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ei hanfon drwy'r post gan y cyflenwr canolog, bydd y llythyr eglurhaol a fydd gyda'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn bodloni'r gofyniad i ysgriennu at yr ymgeisydd, ac ni fydd angen anfon unrhyw hysbysiad ychwanegol.

Bydd yr un peth yn wir pan fyddwch yn cynhyrchu ac yn anfon y Ddogfen Etholwr Dienw yn lleol. Bydd anfon y ddogfen hon at etholwr yn bodloni'r gofyniad i ysgrifennu ato ac ni fydd angen anfon unrhyw hysbysiad ychwanegol. Dylid rhoi unrhyw ohebiaeth a anfonir at etholwyr dienw mewn prif amlen blaen er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn ddiogel. Fodd bynnag, os bydd yr ymgeisydd yn casglu'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu'r Ddogfen Etholwr Dienw, rhaid i chi roi gwybod i'r ymgeisydd bod ei gais wedi'i gymeradwyo. Gallwch roi gwybod i ymgeiswyr drwy unrhyw ddull o'ch dewis, ond rhaid i chi hefyd ysgrifennu at yr ymgeisydd yn y cyfeiriad a nodwyd yn ei gais cyn gynted ag y bo modd.2   

Ceisiadau a wrthodir

Rhaid i chi roi gwybod i'r ymgeisydd pan fyddwch yn gwrthod ei gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw.3   

Rhaid i'r hysbysiad gynnwys y canlynol:4  

  • y rheswm dros wrthod
  • yr hawl i apelio 
  • yr amserlen ar gyfer cyflwyno apêl – rhaid rhoi hysbysiad o apêl o fewn 14 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad gwrthod 

Gallwch roi gwybod i'r ymgeisydd bod ei gais wedi cael ei wrthod drwy unrhyw ddull o'ch dewis, ond rhaid i chi hefyd ysgrifennu at yr ymgeisydd yn y cyfeiriad a nodwyd yn ei gais cyn gynted ag y bo modd.5   

Nid oes unrhyw beth yn atal ymgeisydd rhag gwneud cais o'r newydd ar ôl i'w gais gael ei wrthod.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022