Dylai fod gennych wybodaeth ar gael am y gallu i optio allan o’r broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, sy’n cynnwys y gallu i gofrestru i bleidleisio’n awtomatig a gofynion y broses honno.
Byddwch o bosibl yn nodi ac anfon hysbysiad cofrestru at bobl ifanc 14 a 15 mlwydd oed. Dylech sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael i’r unigolion hyn a’u rhieni neu ofalwyr ynghylch y broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Dylai’r wybodaeth hon gynnwys sut y cafodd eu data ei nodi a’i brosesu, a sut y caiff ei storio.
Dylech hyfforddi staff a fydd yn ateb galwadau ar eich rhan i ymateb i ymholiadau neu gyfeirio galwyr at y lle cywir. Rydym wedi datblygu Adnodd Cwestiynau Cyffredin i’ch cefnogi.
Gallwch ddefnyddio partneriaid mewnol ac allanol rydych wedi ymgysylltu â nhw’n flaenorol i’ch helpu i nodi etholwyr sydd heb gofrestru mewn grwpiau anodd eu cyrraedd lle’r ydych yn llai tebygol o allu cyrchu data lleol e.e. pobl sy’n profi digartrefedd, neu’r rhai sydd â rhwystrau iaith. Gall y partneriaethau hyn eich galluogi i gymryd y camau eraill sydd ar gael i chi i nodi pobl sydd heb gofrestru. Mae’r rhain yn cynnwys:1
Anfon gohebiaeth bapur
Anfon gohebiaeth electronig
Gwneud ymweliadau personol, pan fo’r unigolyn dros 16
Gwneud galwadau ffôn, pan fo’r unigolyn dros 16 ac mae gennych ei rif ffôn
Dylech werthuso pa bynnag ddulliau rydych yn eu defnyddio i ymgysylltu ag etholwyr posibl i sicrhau eich bod yn cyrraedd y cynulleidfaoedd cywir ac yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol.