Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Trefniadau pleidlais bost
Cofnod dynodwr llofnod pleidlais bost
Pan fo gan etholwr drefniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a threfniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chedwir llofnodion gwahanol ar bob cofnod; mae’n rhaid i chi gymhwyso’r llofnod a gedwir yng nghofnod pleidleisio absennol etholwyr etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu fel yr unig lofnod ar y cofnod a daw i rym o’r diwrnod perthnasol i alluogi cydgyfeirio’r cofnodion.1
Gofynion hysbysu
Nid oes unrhyw ofyniad i hysbysu’r etholwr bod y newid hwn wedi’r roi ar waith hyd at y diwrnod perthnasol.
Pleidlais bost neu bleidleisiau post drwy ddirprwy - Cyfnod hiraf ar gyfer trefniadau presennol
Pennwyd y cyfnod hiraf ar gyfer trefniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol yn unol â’r rheolau ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Senedd and Local government elections postal or proxy postal arrangements only Trefniadau pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol yn unig
Pan fo gan etholwr neu ei ddirprwy drefniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol yn unig, daw’r trefniant hwnnw i ben ar y dyddiad adnewyddu llofnod cyfredol neu ar 31 Ionawr 2029 (pa un bynnag a ddaw’n gyntaf).2
Trefniadau etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a threfniadau etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Pan fo gan etholwr drefniadau pleidleisio post cyfredol ar waith ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol ac ar gyfer pleidleisiau etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae’n rhaid i chi gymhwyso’r dyddiad dod i ben ar gyfer pleidlais bost yr etholwr yn etholiadau Senedd y DU neu’r dyddiad adnewyddu llofnod cyfredol 31 Ionawr 2029 (pa un bynnag a ddaw’n gyntaf).3
Gofynion hysbysu
Nid oes unrhyw ofyn i hysbysu etholwyr neu ddirprwyon bod y newid hwn wedi dod i rym. Cânt eu hysbysu’n unol â’r broses ail-ymgeisio am bleidlais bost pan fydd disgwyl i’w trefniant ddod i ben.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein canllawiau ar y broses hysbysu pleidleiswyr post o’r gofyn i ail-ymgeisio.
Trefniadau pleidlais bost drwy ddirprwy
Pan fo person yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer etholwr ac mae ganddo bleidlais bost ar waith ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol ac etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac mae ei drefniant pleidlais bost drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol yn dod i ben ar y diwrnod perthnasol.4
Cyn gynted ag y bo modd ar ôl y diwrnod perthnasol, mae’n rhaid i chi anfon hysbysiad i’r dirprwy i’w gyfeiriad cymhwyso yn ei hysbysu:
- bod ei drefniant pleidlais bost drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol wedi dod i ben, y rheswm dros hyn ac effaith diwedd y penodiad hwnnw
- gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais newydd 5
Mae’n rhaid i chi hysbysu’r etholwr a benododd y dirprwy drwy anfon hysbysiad i gyfeiriad cymhwyso’r etholwr bod ei drefniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol wedi dod i ben.6
Bydd yr unigolyn a gafodd ei benodi’n ddirprwy yn parhau ond byddai angen iddo bleidleisio yn bersonol ym mhleidleisiau etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol tan y rhoddir trefniant pleidleisio post drwy ddirprwy newydd ar waith.
- 1. Rheoliad 35, Rhan 7, Rheoliadau Pleidleisio Abesennol (Diwygiad Amryiwol) (Cymru) 2026 (AVR 2026) (Cymru) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 32(4)(a), Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 32(4)(b), Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 31, Rhan 7, Rheoliadau Pleidleisio Abesennol (Diwygiad Amryiwol) (Cymru) 2026 (AVR 2026) (Cymru) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 31(3), Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 31(4)(b), Rhan 7, AVR 2026 (Cymru) ↩ Back to content at footnote 6