Mae’n rhaid i chi gymhwyso’r llofnod a gedwir yng nghofnod pleidleisio absennol etholwyr etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu pan fo gan etholwr drefniant pleidlais bost ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a threfniant pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Rhaid i hwn fod yr unig lofnod sydd ar y cofnod a daw i rym o’r diwrnod perthnasol.1
Penodi pleidlais drwy ddirprwy - Dyddiadau adnewyddu gwneud llofnodion yn gydnaws
Pan fo gan unigolyn ddirprwy wedi’i benodi ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ac ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Llywodraeth leol a’r dyddiadau adnewyddu yn unig sy’n wahanol ar gyfer y penodiadau, y dyddiad adnewyddu llofnod fydd dyddiad adnewyddu penodi dirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.2
Nid oes unrhyw ofyn i hysbysu’r unigolyn bod y newid hwn wedi’i roi ar waith, a chaiff ei hysbysu yn unol â’r broses adnewyddu llofnod pleidlais drwy ddirprwy. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein canllawiau ar ddiweddaru llofnodion pleidlais drwy ddirprwy.
1. Rheoliad 33(4), Rhan 7, Rheoliadau Pleidleisio Abesennol (Diwygiad Amryiwol) (Cymru) 2026 (AVR 2026) (Cymru)↩ Back to content at footnote 1