Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Cynnwys yr hysbysiad diweddaru pleidlais absennol
Dylech gadw cofnod o enw pob unigolyn rydych wedi anfon hysbysiad ato, y cyfeiriad yr anfonoch yr hysbysiad iddo, a dyddiad yr hysbysiad er mwyn i chi gyfrifo pa bryd y bydd y pleidleisiwr drwy ddirprwy yn colli ei hawl i bleidleisio drwy ddirprwy os nad yw wedi darparu llofnod newydd.
Mae’n rhaid i’r hysbysiad gwreiddiol:
- ofyn i’r pleidleisiwr drwy ddirprwy ddarparu enghraifft o’i lofnod
- egluro os na ddaw'r llofnod hwn i law ymhen chwe wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad, caiff ei bleidlais drwy ddirprwy ei chanslo
- rhoi gwybod iddo o ba ddyddiad na fyddai ganddo’r hawl i bleidleisio drwy ddirprwy mwyach
Dylech hefyd gynnwys gwybodaeth i egluro’r pethau canlynol:
- pa fath o etholiadau na fyddai’r unigolyn yn gallu pleidleisio drwy ddirprwy ynddynt os nad yw’n darparu’r llofnod gofynnol
- nid yw canslo’r bleidlais drwy ddirprwy oherwydd methu â darparu sampl newydd o lofnod, neu wrthod gwneud hynny, yn atal yr etholwr rhag ail-ymgeisio am bleidlais absennol
- sut y caiff y llofnod a’r dyddiad geni gofynnol eu defnyddio i gynorthwyo’r gwaith o atal camddefnyddio
- yr amgylchiadau a all y gofyn am lofnod gael ei hepgor
- y dyddiad olaf i’r llofnod gyrraedd yr ERO (hynny yw, dim hwyrach na chwe wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad)
Beth nad yw’n cael ei gynnwys ar yr hysbysiadau diweddaru pleidleisiwr drwy ddirprwy?
Nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith o ran rhagargraffu dyddiad geni’r etholwr ar yr hysbysiad diweddaru. Nid oes angen i bleidleiswyr drwy ddirprwy presennol ddarparu eu dyddiad geni eto er mwyn i’w pleidlais drwy ddirprwy barhau.
I ble y dylai’r hysbysiad diweddaru pleidlais bost gael ei anfon iddo?
Mae’n rhaid i chi anfon yr hysbysiad i gyfeiriad cyfredol neu gyfeiriad hysbys diweddaraf y pleidleisiwr drwy ddirprwy.
Mae’n rhaid i chi amgáu amlen ymateb gyda chost postio wedi’i rhagdalu gyda phob hysbysiad a anfonir at bleidleisiwr absennol yn y DU.
Mae’n rhaid i hysbysiadau sy’n cael eu hanfon at bleidleiswyr drwy ddirprwy gyda chyfeiriadau y tu allan i’r DU hefyd gynnwys amlen ymateb gyda chyfeiriad wedi nodi arni eisoes, ond nid oes rhaid i gost postio gael ei rhagdalu ar gyfer y rhain.
Hysbysiadau atgoffa
Bydd angen i chi sganio neu ddefnyddio dull arall o gofnodi pa hysbysiadau a gaiff eu dychwelyd i ganiatáu i chi lunio rhestr gywir o’r rhai sydd angen nodyn atgoffa.
Os nad yw pleidleisiwr drwy ddirprwy wedi ymateb ymhen tair wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad gwreiddiol, ac nid yw’r bleidlais drwy ddirprwy wedi’i chanslo gan y pleidleisiwr yn y cyfamser, mae’n rhaid i chi anfon hysbysiad atgoffa cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Mae’r nodyn atgoffa yn gopi o gynnwys yr hysbysiad gwreiddiol.
Templedi
Rydym wedi cynhyrchu templed o lythyr cais am ddynodwr pleidlais drwy ddirprwy a all fod yn ddefnyddiol i chi.