Nodi nifer y pleidleisiau absennol y mae angen eu diweddaru
Dylech wirio nifer y llofnodion ar gyfer pleidleiswyr drwy ddirprwy ar gyfer pob etholiad a phleidleiswyr drwy’r post a fydd yn destun i’r broses ddiweddaru ym mhob blwyddyn. Caiff oedran y llofnod ei gyfrifo yn seiliedig ar y llofnod diwethaf a ddarparwyd. Dylai’r EMS allu cynnal adroddiad i nodi’r rhain.
Dylech sicrhau bod hysbysiadau templed yn bodoli i’w hanfon at etholwyr i gael llofnodion wedi’u diweddaru, ac i hysbysu unrhyw etholwyr y mae eu pleidlais absennol wedi cael ei chanslo gan nad ydynt wedi darparu llofnod newydd.