| Argraffu'r canllawiau llawn

Pennu dyddiadau cau ar gyfer y broses diweddaru pleidlais drwy ddirprwy

Bydd pleidleiswyr drwy ddirprwy yn colli eu hawl i bleidleisio drwy ddirprwy os na chafwyd ymateb ymhen chwe wythnos ar ôl anfon yr hysbysiad gwreiddiol.

Caiff y cyfnod o chwe wythnos ei gyfrifo o’r dyddiad y caiff yr hysbysiad ei anfon at bleidleiswyr drwy ddirprwy. Dylech felly ddyddio’r hysbysiad ar y dyddiad rydych yn disgwyl ei anfon.

Byddai’r hawl yn cael ei cholli ar ddiwrnod olaf y cyfnod o chwe wythnos yn dilyn y dyddiad y caiff yr hysbysiad ei anfon. Lle bo diwedd y cyfnod o chwe wythnos yn disgyn ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith, caiff y dyddiad ei symud ymlaen i’r diwrnod gwaith nesaf.

Ymhen tair wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad gwreiddiol, os na chafwyd ymateb, mae’n rhaid anfon hysbysiad atgoffa at y pleidleisiwr drwy ddirprwy.  Yn yr achos hwn, mae’r tair wythnos yn gynhwysol, hynny yw, mae gan bleidleiswyr dair wythnos lawn i gwblhau’r hysbysiad ac iddo gyrraedd swyddfa’r ERO cyn y dylid anfon nodyn atgoffa.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Gorffennaf 2026