Tynnu pleidleisiwr drwy ddirprwy o’r cofnodion a’r rhestr pleidleisio absennol
Os nad ydych wedi cael llofnod newydd cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad gwreiddiol, mae’n rhaid i chi dynnu cofnod y bleidlais drwy ddirprwy o’r cofnodion pleidleisio absennol perthnasol a’r rhestrau perthnasol ar unwaith (rhestr o ddirprwyon neu restr o bleidleiswyr post drwy ddirprwy). Mae’n rhaid i chi hefyd dynnu cofnod yr unigolyn hwnnw o’r cofnod perthnasol o geisiadau pleidlais drwy ddirprwy a roddwyd.
Dylai’r cofnodion a’r rhestrau gael eu diweddaru’r diwrnod ar ôl y dyddiad cau. Lle bo’r dyddiad cau yn disgyn ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith, caiff ei symud ymlaen i’r diwrnod gwaith nesaf.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gadw llofnod a dyddiad geni’r etholwr a ddarparwyd ynghynt ar y cofnod o ddynodyddion personol am gyfnod o ddeuddeg mis o’r dyddiad y cafodd yr etholwr ei dynnu o’r cofnod o geisiadau a ganiateir.
Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at yr etholwr i’w hysbysu bod ei drefniant pleidlais drwy ddirprwy wedi cael ei ddileu. Mae’n rhaid i’r hysbysiad:
egluro bod pleidlais drwy ddirprwy'r unigolyn wedi cael ei thynnu gan nad oes llofnod newydd wedi’i ddarparu ac os yw’n dymuno pleidleisio gall wneud hynny mewn gorsaf bleidleisio yn unig o hyn ymlaen
roi gwybod iddo am ei orsaf bleidleisio
ei atgoffa y gall wneud cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy, ac mae’n rhaid iddo gynnwys ei ddynodwyr
Dylech gynnwys ffurflen gais am bleidlais bost newydd gyda’r hysbysiad dileu. Nid oes unrhyw ddarpariaeth i ragargraffu’r dyddiad geni sydd gennych eisoes ar gyfer yr etholwr ar y ffurflen gais newydd.
Pan gaiff dirprwy drwy’r post ei dynnu o’r cofnod a’r rhestr o ddirprwyon drwy’r post, mae’n rhaid i chi hefyd ysgrifennu at yr etholwr a benodwyd y dirprwy ac egluro er bod y penodiad dirprwy yn parhau ar waith (ar yr amod nad yw’r etholwr wedi colli ei hawl i bleidleisio drwy ddirprwy), mae’n rhaid i’w ddirprwy fynd i orsaf bleidleisio’r etholwr i bleidleisio ar ei ran neu ail-ymgeisio am bleidlais bost.
Dylech hefyd ysgrifennu at unrhyw ddirprwy neu ddirprwy drwy’r post pan nad yw’r etholwr wedi ymateb i’r hysbysiadau gofyn i’w hysbysu bod ei benodiad dirprwy neu ddirprwy drwy’r post wedi cael ei ganslo.
Rydym wedi llunio templed llythyr canslo oherwydd methu â darparu llofnod newydd a all fod yn ddefnyddiol i chi