Hyrwyddo'r sianeli y gellir eu defnyddio i wneud cais am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr
Bydd eich gwefan a'ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn adnoddau allweddol i ledaenu negeseuon am y ffaith y bydd angen cyflwyno math o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio yn yr etholiadau perthnasol.
Bydd ein gwefan yn cynnwys gwybodaeth am yr angen i gyflwyno prawf adnabod ffotograffig wrth bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio mewn etholiadau perthnasol, y mathau o brawf adnabod a dderbynnir a sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr os na fydd gan etholwr unrhyw un o'r mathau eraill o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir, neu os na fydd yn dymuno eu defnyddio.
Mae'n bosibl y bydd hyrwyddo'r wybodaeth hon yn helpu i leihau ymholiadau a chwestiynau a, phan fydd angen i ymgeisydd wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, ei gwneud hi'n hawdd iddo wneud hynny ar-lein. Mae'n bosibl y bydd hyn, yn ei dro, yn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy effeithlon i chi brosesu ceisiadau. Mae'r porth gwneud cais ar-lein yn cynnwys y manteision canlynol i ymgeiswyr:
mwy o hygyrchedd i unigolion sydd ag anghenion cyfathrebu penodol y gall fod yn haws iddynt gwblhau'r cais ar-lein o bosibl, er enghraifft y rhai sydd â nam ar eu golwg sy'n defnyddio darllenwyr sgriniau electronig
sicrwydd bod y cais y maent wedi'i wneud yn gyflawn, gan na fydd y porth gwneud cais ar-lein yn caniatáu i geisiadau anghyflawn gael eu cyflwyno, er enghraifft, ni ellir cyflwyno ceisiadau heb ddarparu llun
sicrwydd bod y cais wedi'i dderbyn, sy'n arbennig o fuddiol yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais cyn unrhyw etholiad, refferendwm, neu ddeiseb berthnasol
Mae manteision i chi hefyd gan gynnwys:
angen mewnbynnu llai o ddata â llaw
llai o wallau oherwydd bod y wybodaeth a nodwyd ar y ffurflen gais ar-lein wedi'i dilysu
ni fydd angen dehongli llawysgrifen
bydd y ceisiadau a geir yn gyflawn, sy'n golygu na fydd angen cymryd camau i ddod o hyd i wybodaeth goll
bydd angen cyflwyno lluniau mewn fformat ac eglurder a dderbynnir, gan leihau'r angen i gymryd camau dilynol
ni fydd angen derbyn, agor, sganio na storio ffurflen bapur a llun