Cyflwyno Dogfennau Etholwyr Dienw newydd

Gall etholwr dienw gysylltu â chi am Ddogfen Etholwr Dienw newydd os bydd wedi colli'r ddogfen a gyflwynwyd yn flaenorol, neu os bydd wedi'i dwyn, ei dinistrio neu ei difrodi ar ôl 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad penodol, neu'r diwrnod olaf ar gyfer cyfnod llofnodi deiseb, ond cyn 5pm ar y diwrnod pleidleisio neu hyd at awr cyn i ddeiseb gau pan ddisgwylir i ddeiseb gau cyn 5pm.1  

O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i chi ddefnyddio'r llun gwreiddiol o'r etholwr dienw y byddwch wedi'i gadw yn y cofnod o ddogfennau a gyflwynwyd er mwyn creu'r Ddogfen Etholwr Dienw newydd.2  

Rhaid i chi drefnu i'r etholwr allu casglu'r Ddogfen Etholwr Dienw yn bersonol.3

Os nododd yr ymgeisydd yn ei gais gwreiddiol fod angen esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r Ddogfen Etholwr Dienw arno, rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd drefnu i esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r ddogfen a gyflwynwyd gael ei ddarparu pan gaiff y ddogfen ei chasglu.4 Bydd cynlluniau hawdd eu deall a phrint bras ar gael ar-lein a chyflenwir stoc o gopïau caled Braille i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy'r cyflenwr sydd wedi'i gaffael yn ganolog a benodwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Os bydd angen i chi archebu rhagor o stoc, bydd angen i chi gysylltu â'r cyflenwr yn uniongyrchol.  

Rhaid i chi hysbysu'r etholwr dienw:5  

  • fod y Ddogfen Etholwr Dienw newydd yn barod i'w chasglu
  • ble a phryd y gellir casglu'r Ddogfen Etholwr Dienw newydd
  • mai dim ond yr etholwr dienw all gasglu'r Ddogfen Etholwr Dienw yn bersonol
  • bod yn rhaid i'r etholwr dienw ddod â'i dystysgrif cofrestru dienw gydag ef a'i dangos ar gais.
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022