Darparu Dogfennau Etholwyr Dienw newydd pan gaiff y rhif etholwr ei newid
Gellir diweddaru'r rhif etholwr sydd gan etholwr dienw pan gaiff cofrestr etholiadol ei hailgyhoeddi, megis ar ôl cwblhau'r canfasiad blynyddol neu oherwydd newid i ffiniau.
Pan fydd y rhif etholwr sydd gan etholwr dienw sydd wedi cael Dogfen Etholwr Dienw yn newid, rhaid i chi eu hysbysu:1
bod eu rhif etholwr wedi newid
nad yw'r Ddogfen Etholwr Dienw a gyflwynwyd yn flaenorol yn ddilys mwyach
y bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cyflwyno Dogfen Etholwr Dienw newydd
os bydd yn meddwl bod angen casglu'r ddogfen newydd yn bersonol yn hytrach na'i chael drwy'r post, bydd angen iddynt roi rheswm pam i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol
Os nododd yr ymgeisydd fod angen esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r Ddogfen Etholwr Dienw arno, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd drefnu i esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint bras o'r ddogfen a gyflwynwyd gael ei anfon gyda'r ddogfen newydd neu ei ddarparu pan gaiff y ddogfen newydd ei chasglu. Bydd cynlluniau hawdd eu deall a phrint bras ar gael ar-lein a chyflenwir stoc o gopïau caled Braille i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol drwy'r cyflenwr sydd wedi'i gaffael yn ganolog a benodwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Os bydd angen i chi archebu rhagor o stoc, bydd angen i chi gysylltu â'r cyflenwr yn uniongyrchol.