Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y byddwch yn gwneud gwall prosesu sy'n golygu na fyddwch yn cadarnhau pwy yw ymgeisydd sydd wedi cyflwyno cais mewn pryd i chi gyflwyno Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw fel y gall bleidleisio mewn etholiad neu lofnodi deiseb. Er enghraifft, efallai y bydd ffurflen gais wedi dod i law ar bapur ond wedi mynd ar goll a heb gael ei phrosesu'n gywir, neu efallai y bydd cais ar-lein wedi cael ei brosesu'n anghywir, gan olygu na chafodd y cais ei anfon i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Gallwch gywiro'r gwall, penderfynu ar gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw a chyflwyno'r ddogfen berthnasol unrhyw bryd cyn diwedd y cyfnod pleidleisio neu'r dyddiad cau ar gyfer llofnodi deiseb.
Ar ôl darganfod y math hwn o wall prosesu, a chyn y gallwch benderfynu ar y cais, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol o hyd:
bod yn fodlon bod y cais yn cael ei wneud gan unigolyn sy'n cyfateb, yn ôl pob golwg, i'r unigolyn a enwir ar y cais
bod yn fodlon y cafodd y cais ei gyflwyno cyn y terfyn amser (er enghraifft, rhoddwyd stamp dyddiad ac amser arno pan ddaeth i law)
anfon dynodyddion personol yr ymgeisydd i gael eu dilysu
Pan gaiff gwallau prosesu eu nodi yn agos at ddiwedd cyfnod pleidleisio neu ddyddiad cau deiseb, a'ch bod yn bryderus na chaiff canlyniadau proses baru data'r Adran Gwaith a Phensiynau eu dychwelyd mewn pryd neu na fyddai amser i gynnal proses paru data lleol na chwblhau'r broses eithriadau pe bai angen, o dan yr amgylchiadau hyn cewch symud ymlaen yn syth i'r broses paru data lleol a/neu'r prosesau eithriadau neu ardystio dogfennol cyn i chi gael canlyniadau proses baru'r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn lliniaru effaith y gwall prosesu.
Os byddwch yn penderfynu bod y cais yn llwyddiannus yn dilyn hyn, gallwch gyflwyno Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw barhaol, fel y bo'n briodol.
Os byddwch yn gwneud y penderfyniad hwn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, ac nad ydych yn credu y bydd y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn cyrraedd mewn pryd, cewch gyflwyno Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro hefyd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar Gyflwyno Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr Dros Dro.
Ar ôl cwblhau gwiriad yr Adran Gwaith a Phensiynau, os bydd EROP yn dangos canlyniad paru, rhaid i chi sicrhau eich bod yn dinistrio unrhyw dystiolaeth ddogfennol a ddarperir drwy'r broses eithriadau neu ardystio gan na fydd ei hangen ar gyfer eich cofnodion mwyach. Os bydd gwiriad yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos canlyniad dim paru, dylech barhau i gadw unrhyw dystiolaeth ddogfennol y gwnaethoch ei defnyddio i benderfynu bod y cais yn llwyddiannus.