Dim ond â ffurflen gais bapur y gall etholwyr dienw wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw. Byddwch yn gallu darparu ffurflenni cais papur ar gyfer ymgeiswyr sy'n gofyn amdanynt o'r porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROP).
Pan fydd rhywun yn gofyn am ffurflen gais bapur, cyn darparu un dylech gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio fel etholwr dienw neu ei fod wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio fel etholwr dienw naill ai mewn:
cofrestr etholwyr seneddol,
cofrestr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru ac â hawl i bleidleisio mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn ardal yr heddlu yng Nghymru
Os nad yw wedi gwneud hyn, dylech esbonio bod angen i ymgeisydd fod wedi cofrestru i bleidleisio'n ddienw er mwyn gwneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw ac anfon ffurflen gofrestru ar gyfer etholwyr dienw ato gyda'r cais am Ddogfen Etholwr Dienw.
Gall ffurflenni gael eu hanfon atoch drwy'r post, eu dosbarthu â llaw neu eu hanfon yn electronig, er enghraifft ar ffurf copi wedi'i sganio a anfonir drwy e-bost.
Nid yw'r ffurflen gais wedi'i rhagnodi, felly os byddwch yn cael cais ysgrifenedig am Ddogfen Etholwr Dienw sy'n cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol mewn unrhyw fformat arall, dylid prosesu hyn o hyd.
Mae'n rhaid i etholwyr dienw gyflwyno llun addas gyda'u cais. Os yw'n bosibl, dylech sicrhau bod yr etholwr yn ymwybodol o hyn cyn iddo gyflwyno ei gais a chynnig cyngor ar sut y gall ddarparu'r llun hwn, a all gynnwys trefnu i dynnu llun yr etholwr yn un o'ch swyddfeydd.
Mae ceisiadau am Ddogfennau Etholwyr Dienw a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â nhw yn sensitif a rhaid eu storio'n ddiogel1
.